​​Pwyllgor y Cynulliad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15

Cyhoeddwyd 05/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/03/2015

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi amlinellu nifer o gasgliadau ac argymhellion ar ôl craffu ar yr Ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2014-15.  

Wrth ystyried y gyllideb atodol, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth.  Yn ogystal â hyn, ystyriodd y Pwyllgor Gyllidebau Atodol Comisiwn y Cynulliad a Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae'r prif ddyraniadau refeniw ychwanegol yn y gyllideb atodol ar gyfer y £200 miliwn ychwanegol i GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref, ynghyd â £40 miliwn arall i ariannu pwysau'r gaeaf yn y GIG. Y prif ddyraniad cyfalaf ychwanegol yw'r £14.9 miliwn ar gyfer y GIG a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.

Wrth ystyried y gyllideb ar gyfer 2015-16 yn ystod yr hydref, roedd y Pwyllgor yn bryderus ynghylch y cyllid a oedd yn cael ei ddyrannu i'r maes iechyd, ar draul llywodraeth leol ac mae'r pryderon hyn yn bodoli o hyd.

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Fel Pwyllgor, rydym yn cydnabod bod pennu blaenoriaethau yn fater i'r Llywodraeth.  Fodd bynnag, rydym yn bryderus bod cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r maes iechyd, sy'n ymddangos fel pe bai'n seiliedig ar y dystiolaeth o un adroddiad, a heb bennu targedau pendant ar sut y bydd y GIG yn gwella ac yn dod yn gynaliadwy yn ariannol."

Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 (PDF, 629KB)