Pwyllgor y Senedd yn annog camau brys ar fesuryddion rhagdalu i 'achub bywydau'

Cyhoeddwyd 30/11/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/11/2023   |   Amser darllen munudau

Gallai rhagor o gefnogaeth i atal pobl sy’n agored i niwed rhag cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu ynni 'achub bywydau', yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Caiff adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Deisebau ei lansio ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd (30 Tachwedd), ac mae yn edrych ar y sgandal mesuryddion rhagdalu, lle gorfododd cwmnïau ynni filoedd o bobl i gael y dyfeisiau hyn wedi'u gosod yn eu cartrefi ar ôl iddynt fethu â thalu eu biliau yn brydlon.

Roedd llawer o'r dioddefwyr yn agored i niwed, gan gynnwys pobl anabl, pobl hŷn a theuluoedd â phlant bach.

Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i wella ei gwasanaethau cynghori y gaeaf hwn drwy ddarparu cyllid ar gyfer ymgyrch hysbysebu i roi gwybod i bobl ble i fynd am gyngor a chefnogaeth os ydynt yn cael trafferth talu eu biliau.

Cod ymarfer sy’n addas i'r diben?

Ers y sgandal mesuryddion rhagdalu, mae'n ofynnol bellach i gwmnïau ynni ddilyn cod ymarfer sy'n gwahardd gosod mesuryddion rhagdalu ar gyfer y cwsmeriaid risg uchaf heb fod hynny’n wirfoddol.

Un o brif bryderon y Pwyllgor yw nad yw'r cod ymarfer hwn yn mynd yn ddigon pell.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio cleifion fel henoed os ydynt dros 65 oed, ac eto nid yw’r cwmnïau ynni yn ystyried bod rhywun yn agored i niwed oni bai ei fod dros 75 oed.

Roedd yr un pryderon yn berthnasol i blant ifanc, sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed dim ond os ydynt o dan ddwy flwydd oed, tra bydd gan lawer o aelwydydd blant cyn-ysgol sy’n hŷn na hynny.

Dywedodd Jack Sargeant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, “Y gaeaf diwethaf, roedd yn ofnadwy clywed am gwmnïau ynni yn mynd i gartrefi pobl sy’n agored i niwed ac yn gosod mesuryddion rhagdalu drwy rym. Ers y sgandal hwnnw, gwnaed ymdrechion i wella pethau, ond nid yw hyn wedi mynd yn ddigon pell.

“Er gwaetha’r cod ymddygiad newydd, gorfodol, bydd mesuryddion rhagdalu yn cael eu gosod drwy rym yng nghartrefi llawer o bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru y gaeaf hwn gan nad ydynt yn bodloni'r meini prawf llym.

“Mae'n hynod siomedig nad yw'r cwmnïau ynni wedi mabwysiadu dehongliad mwy realistig o fod yn agored i niwed. Rydym yn annog y rheoleiddiwr ynni Ofgem i fonitro'r cod ymarfer hwn ac i newid pethau os nad yw'n gweithio.”  

Gyda thua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan, mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn galw am dariff cymdeithasol newydd i bobl sy’n agored i niwed, er mwyn sicrhau mwy o gymorth i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Biliau ynni gostyngol yw tariffau cymdeithasol. Maent ar gael i bobl sy’n agored i niwed i’w galluogi i barhau i wresogi eu cartrefi heb dalu’r pris llawn.

Aeth Jack Sargeant AS ymlaen, “Er bod terfyn i’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan fod hwn yn fater hwn a gadwyd yn ôl, mae'r Pwyllgor yn ei hannog i ddarllen yr adroddiad hwn a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ac Ofgem ar ystod o faterion.

“Wrth gwrs, mae gwella gwasanaethau cynghori yng Nghymru a sicrhau bod pobl yn gwybod ble i droi am help os ydyn nhw'n cael trafferth yn rhywbeth y gallai – ac y dylai – Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud ar unwaith.

“Gall cael mynediad at wres a golau fod yn fater o fywyd a marwolaeth. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ogystal ag Ofgem i ddarllen yr adroddiad hwn ac i roi ein hargymhellion ar waith cyn gynted â phosibl – gallai hyn achub bywydau.”