Bws

Bws

Pwyllgor y Senedd yn galw am drafnidiaeth gyhoeddus ratach

Cyhoeddwyd 06/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/10/2022   |   Amser darllen munudau

Dylai teithiau â chymhorthdal ar fysiau a threnau gael eu darparu i bobl yng Nghymru i helpu gyda’r argyfwng costau byw, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd. 

Mae adroddiad diweddaraf Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, sy’n edrych ar ddyfodol teithio ar fysiau a threnau yng Nghymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

Canfu’r Pwyllgor mai ardaloedd tlotaf Cymru – sydd yn aml yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus – yw’r ardaloedd sydd wedi dioddef fwyaf o doriadau i wasanaethau bysiau. 

Tlodi trafnidiaeth 

Mae argymhelliad allweddol yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i bobl sy’n byw mewn ‘tlodi trafnidiaeth’ o ganlyniad i’r argyfwng costau byw. 

Mae tlodi trafnidiaeth, lle mae aelwyd yn gwario mwy na 10 y cant o’i hincwm ar deithio, wedi dod yn fwyfwy cyffredin yn sgil y cynnydd mewn prisiau tanwydd a’r cynnydd yng nghostau teithio ar fysiau a threnau yn y blynyddoedd diwethaf. 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod tlodi trafnidiaeth yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys, yn arbennig, bobl anabl - sef chwarter y teithwyr bws - pobl hŷn a menywod. 

Llai o wasanaethau a llai o deithwyr 

Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a’r Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr wrth y Pwyllgor fod nifer y teithwyr ar wasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru 30-35 y cant yn is na lefelau cyn y pandemig. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod mwy o bobl yn gweithio gartref yn hytrach na chymudo. 

Ond clywodd y Pwyllgor fod y penderfyniad i gwtogi’n sylweddol ar wasanaethau oherwydd Covid-19 hefyd wedi cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid a bod llawer o’r llwybrau bysiau a gwasanaethau rheilffordd a gafodd eu hatal heb ddychwelyd. 

Gostyngodd gwasanaethau bysiau yng Nghymru 36 y cant rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021, ac ardaloedd gwledig sydd wedi gweld y gostyngiad canrannol mwyaf. Canfu academyddion ym Mhrifysgol De Cymru hefyd fod y gostyngiad mwyaf o ran mynediad at wasanaethau bysiau wedi digwydd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, sy’n rhoi’r cymunedau hynny dan fwy o anfantais. 

Ysbrydoliaeth ryngwladol 

Er mwyn codi apêl teithio ar fysiau a threnau, mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried esiamplau mewn gwledydd eraill a dysgu oddi wrthynt.  

Mae'r Pwyllgor yn cyfeirio yn benodol at yr Almaen, a gynhaliodd arbrawf yn ddiweddar a oedd yn caniatáu mis o deithio diderfyn ar rwydweithiau trenau rhanbarthol, tramiau a bysiau am €9 yn unig. Mae hefyd yn cyfeirio at Sbaen, sydd wedi cyflwyno teithio am ddim ar wasanaethau trenau pellter byr a chanolig sy'n cael eu rhedeg gan y gweithredwr rheilffyrdd cenedlaethol. 

Yn ddiweddar, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’n cyflwyno mesurau tebyg yn Lloegr o fis Ionawr 2023, ac mae’r Alban a Gogledd Iwerddon wedi gwneud ymrwymiadau tebyg. 

Dywedodd Joseph Lewis, sy'n byw yng Nghaerdydd, fod llawer o ffactorau gwahanol yn cyfrannu at beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus cymaint ag yr oedd yn arfer gwneud. 

“Y dyddiau hyn gall rhywun ddewis cwrdd ar-lein yn aml, yn enwedig ar gyfer gwaith. Os ydw i'n gorfod prynu tocynnau niferus gan wahanol ddarparwyr trafnidiaeth ar gyfer gwahanol deithiau ar fysiau neu drenau, delio â'r diffyg gwybodaeth mewn arosfannau bysiau ac yna'r pris ar ben y cyfan, dwi ddim yn mynd i drafferthu. Mae'n symlach, yn rhwyddach, ac yn rhatach i ddefnyddio’r car neu wneud y peth ar-lein yn lle hynny. 

“Mae rhai teithiau yn rhesymol; er enghraifft, doedd y gost ddim yn rhy ddrwg pan oedd gen i docyn wythnosol ar gyfer cymudo. Ond yna gall teithiau eraill fod yn eithaf drud, sy'n golygu bod y gost yn anghymesur. Dwi yn bendant yn teimlo bod y pris wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  

“Dwi eisiau gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – dwi’n hoffi’r profiad yn gyffredinol – ond mae llawer o bethau yn fy rhwystro.” 

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith:  

“Mae rhwydwaith bysiau a threnau effeithlon a phoblogaidd yn hollbwysig i economi Cymru ac mae'n arbennig o bwysig os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged o sicrhau allyriadau sero net erbyn 2035.   

“Mae’r ymgyrch i gael mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi arafu oherwydd y pandemig ac nid yw hyn yn cael ei helpu gan doriadau. Mae'n annerbyniol mai ardaloedd tlotaf Cymru sydd wedi cael eu taro galetaf gan ostyngiadau mewn gwasanaethau bysiau. 

“Heb os, bydd sefyllfa llawer o deuluoedd sydd eisoes mewn tlodi trafnidiaeth yn gwaethygu oherwydd yr argyfwng costau byw, a chredwn ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn helpu pobl yn y sefyllfa hon. Dylid ystyried pob un peth posibl, gan gynnwys atebion creadigol fel y rhai a welsom yn yr Almaen a Sbaen ac sydd bellach yn cael eu haddo ar gyfer rhannau eraill o’r DU. 

“Ni allwch ddisgwyl i fwy o bobl ddefnyddio bysiau a threnau os yw’r gwasanaethau hynny’n anghyfleus ac yn ddrud. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wrando ac i weithredu ar ein hargymhellion os ydyn nhw o ddifrif am annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”