Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar ddeddfwriaeth newydd ynghylch newid y ddarpariaeth ddysgu i fyfyrwyr 14 i 19 oed

Cyhoeddwyd 30/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar ddeddfwriaeth newydd ynghylch newid y ddarpariaeth ddysgu i fyfyrwyr 14 i 19 oed

Bwriedir cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddeddfwriaeth arfaethedig newydd sy’n ategu polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer darpariaeth 14-19.

Mae pwyllgor Cynulliad wedi cael ei sefydlu i ystyried egwyddorion cyffredinol Mesur arfaethedig Llywodraeth ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru). Mae’r pwyllgor yn galw am dystiolaeth er mwyn clywed barn yr holl grwpiau sydd â diddordeb.  Nod y Mesur arfaethedig yw sicrhau y gall dysgwyr o bob lefel gallu rhwng 14 a 19 oed ddewis o blith ystod eang o bynciau academaidd a galwedigaethol o restr o opsiynau. Mae’n rhan o ymdrech y Llywodraeth i sicrhau parch cyfartal i gymwysterau galwedigaethol. Mae’r Mesur hefyd yn ceisio gwella mynediad dysgwyr at gymorth dysgu a phersonol ac at arweiniad, cyngor a gwybodaeth ynghylch gyrfaoedd.   

Fel rhan o’i broses craffu, bydd y pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ac yn adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 7 Tachwedd 2008.

Dywedodd Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae hon yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sy’n ategu polisi’r Llywodraeth ar gyfer dysgwyr rhwng 14 a 19 oed. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi ymgynghori ar Fesur drafft ac mae nawr yn hanfodol ein bod ni fel pwyllgor yn craffu’n ofalus iawn ar y ddeddfwriaeth arfaethedig. Felly, mae angen i ni glywed barn cynifer o unigolion a sefydliadau â phosibl. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn i fynd i’n gwefan a mynegi eu barn.”

Hoffai’r pwyllgor glywed barn grwpiau sydd â diddordeb mewn perthynas â’r cwestiynau a ganlyn:

i)A oes angen deddfwriaeth i ad-drefnu darpariaeth 14-19?  

ii)A yw’r Mesur arfaethedig yn cyflawni’r amcan polisi neu a fyddai’n bosibl newid pethau heb ddeddfu?

iii)Beth yw barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio yng nghyd-destun y trefniadau newydd?

iv)Beth allai rwystro’r agenda polisi rhag cael ei weithredu ac a yw’r Mesur arfaethedig yn ystyried hyn?

Rhagor o wybodaeth am y Mesur arfaethedig a’r broses ddeddfu a sut i ymateb i’r ymgynghoriad

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw 5 Medi. Mae’r pwyllgor yn croesawu tystiolaeth a gyflwynir yn Saesneg neu yn Gymraeg. Yn ystod tymor nesaf y Cynulliad, bydd y pwyllgor yn gwahodd grwpiau sydd â diddordeb i’r Cynulliad i gyflwyno’u tystiolaeth ar lafar.