Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar gymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig i’r Cynulliad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 26/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar gymhwysedd deddfwriaethol arfaethedig i’r Cynulliad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl

Mae’r Pwyllgor ar Orchymyn Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 6) 2008 (ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl), a sefydlwyd i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig yr Aelod Cynulliad, Jonathan Morgan, ar iechyd meddwl, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn y rhai sydd â diddordeb.

Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi’r pwer i’r Cynulliad wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl.

Fel rhan o’r gwaith craffu cyn deddfu, bydd y pwyllgor yn trafod telerau ac egwyddorion cyffredinol y Gorchymyn arfaethedig ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.

Meddai David Melding AC, cadeirydd y pwyllgor: ‘Amcan y Gorchymyn arfaethedig yw rhoi’r cyfle i’r Cynulliad i gyflwyno Mesurau yn y dyfodol i roi’r hawl i bobl sydd, neu a allai fod ag anhwylder meddyliol gael eu hasesu, eu trin a derbyn gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gyfer iechyd meddwl (heblaw’r rheiny sydd o dan orchymyn, yn debygol o gael eu cadw o dan orchymyn neu’n debygol o gael eu hadalw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983).’

‘Hwn fyddai’r tro cyntaf i’r Cynulliad ofyn am bwerau deddfu i helpu yn y maes pwysig hwn, sef gwasanaethau iechyd meddwl, ac felly mae’n hanfodol bwysig ein bod yn craffu ar y mater hwn yn drwyadl ac yn gynhwysfawr.

Hoffem glywed barn pobl a sefydliadau y gellid effeithio arnynt gan ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn y dyfodol, os rhoddir y pwerau hyn i’r Cynulliad.’

Byddai’r pwyllgor yn croesawu sylwadau a thystiolaeth oddi wrth y rhai sydd â diddordeb, ar gwestiynau megis y canlynol:

  • A ydych yn cytuno y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael cymhwysedd deddfwriaethol ar rai materion yn ymwneud â iechyd meddwl?

  • A fyddai’r pwerau deddfwriaethol y ceisir yn ddigon eang i gynnwys materion iechyd meddwl pwysig?

Dyma’r Gorchymyn arfaethedig Aelod Cynulliad cyntaf i’r Cynulliad graffu arno o dan y pwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru. Enw Jonathan Morgan AC a ddaeth i frig y balot ym mis Hydref i’w ganiatáu i gynnig y Gorchymyn.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yw 25 Ebrill 2008. Bydd y pwyllgor yn croesawu tystiolaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y pwyllgor yn trafod yr ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor yr haf.

Gwybodaeth bellach am y pwyllgor a’r cais am dystiolaeth yn llawn

Gwybodaeth bellach ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a’r broses ddeddfu