Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar y ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch anghenion dysgu ychwanegol.

Cyhoeddwyd 26/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar y ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol, a sefydlwyd i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn y rheiny sydd â diddordeb. Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi’r pwer i’r Cynulliad wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes addysg a hyfforddiant i bobl sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu. Dyma’r Gorchymyn arfaethedig cyntaf gan y Llywodraeth i’w craffu gan y Cynulliad o dan bwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r broses graffu cyn deddfu, bydd y pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol a thelerau’r Gorchymyn arfaethedig ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad. Meddai Eleanor Burnham AC, cadeirydd y pwyllgor: “Mae’r Cynulliad yn wynebu amser cyffrous gyda’i bwerau deddfu ehangach. Dyma gyfle unigryw i’r pwyllgor hwn gymryd yr awenau wrth graffu’n effeithiol ac yn drwyadl ar y darn cyntaf o ddeddfwriaeth arfaethedig a gyflwynir gan y Llywodraeth ym more oes y trydydd Cynulliad. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn cysylltu â’r cyhoedd ac yn annog unigolion i rannu eu sylwadau gyda ni o safbwynt y cynigion a all effeithio ar fywydau pobl Cymru.” Byddai’r pwyllgor yn croesawu sylwadau’r rheiny sydd â diddordeb ar y cwestiynau canlynol: 1. A fyddai amodau’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu gweithredu agenda’r polisi ar anghenion dysgu ychwanegol drwy Fesurau? Os na fyddai, ym mha fodd y byddai gofyn ailddrafftio’r Gorchymyn arfaethedig a pham? 2. A ydyw’n briodol bod y Gorchymyn arfaethedig yn berthnasol i bawb? Os nad ydyw’n briodol, sut y dylid ailddrafftio’r Gorchymyn arfaethedig a pham? 3. A ydyw’r diffiniad o anabledd yn y Gorchymyn arfaethedig yn briodol? Os nad ydyw’n briodol, sut y dylid ailddrafftio’r diffiniad a pham? 4. A ydyw amodau’r Gorchymyn arfaethedig wedi’u drafftio’n briodol, yn rhy eang neu’n rhy gyfyng? Os oes angen, sut y dylid ailddrafftio’r Gorchymyn arfaethedig a pham? Gwybodaeth bellach ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig, a'r broses ddeddfu, ynghyd â’r manylion o ran cyflwyno tystiolaeth. Y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw 21 Medi 2007. Bydd y pwyllgor yn croesawu tystiolaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y pwyllgor yn ystyried yr ymatebion a geir i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor yr hydref.