Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar y ddeddfwriaeth newydd ynghylch diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff.

Cyhoeddwyd 26/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn ceisio barn y cyhoedd ar y ddeddfwriaeth newydd ynghylch diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff.

Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad, a sefydlwyd i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn y rheiny sydd â diddordeb. Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn rhoi’r pwer i’r Cynulliad wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes diogelu’r amgylchedd a rheoli gwastraff. Mae’r Gorchymyn hwn gydag un o’r cyntaf o sawl Gorchymyn arfaethedig gan y Llywodraeth i’w craffu gan y Cynulliad o dan bwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fel rhan o’r broses graffu cyn deddfu, bydd y Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff yn ystyried egwyddorion cyffredinol a thelerau’r Gorchymyn arfaethedig. Meddai Alun Ffred Jones AC, cadeirydd y pwyllgor: “Mae’r pwyllgor hwn gydag un o’r cyntaf i graffu ar Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ac felly mae gennym orchwyl pwysig o’n blaenau. Er mwyn bod yn effeithiol wrth ein gwaith, mae angen i ni glywed barn cymaint o unigolion a sefydliadau â phosib. Yr wyf yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn i edrych ar ein gwefan a mynegi eu barn.” Byddai’r pwyllgor yn croesawu sylwadau’r rheiny sydd â diddordeb ar y cwestiynau canlynol: 1. A fyddai amodau’r Gorchymyn arfaethedig yn caniatáu gweithredu agenda’r polisi ar reoli gwastraff a diogelu’r amgylchedd drwy Fesurau? Os na fyddai, ym mha fodd y byddai gofyn ailddrafftio’r Gorchymyn arfaethedig a pham? 2. Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn cynnwys tabl sydd yn nodi rhai eithriadau nad yw Materion 6.1 a 6.2 yn eu cwmpasu. Gweler rhifau 1, 2, 12, 13, 14, 15, 16 a 18. A ydyw’r eithriadau hyn yn briodol? Os nad ydynt, sut y dylid eu hailddrafftio a pham? 3. A ydyw amodau’r Gorchymyn arfaethedig wedi’u drafftio’n briodol, neu’n rhy eang neu’n rhy gyfyng? Os oes angen, sut y dylid ailddrafftio’r Gorchymyn arfaethedig a pham? Gwybodaeth bellach ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig, y broses ddeddfu, ac ar sut mae cymryd rhan Y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw 21 Medi 2007. Bydd y pwyllgor yn croesawu tystiolaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y pwyllgor yn ystyried yr ymatebion a geir i’r ymgynghoriad ysgrifenedig yn ystod tymor yr hydref.