Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar y cynigion am ddeddfwriaeth Llwybrau Dysgu 14-19

Cyhoeddwyd 02/12/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar y cynigion am ddeddfwriaeth Llwybrau Dysgu 14-19

Mae Pwyllgor y Cynulliad ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Dysgu a Sgiliau (Cymru) wedi croesawu cynigion Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth i ddatblygu’r polisi Llwybrau Dysgu ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed.

Mae adroddiad y pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig a gaiff ei ystyried gan Gyfarfod Llawn y Cynulliad ar 9 Rhagfyr. Gellir gweld adroddiad y pwyllgor yma.  

Mae’r pwyllgor yn cytuno â nod greiddiol y Mesur arfaethedig ac yn cefnogi’r angen am ddeddfwriaeth er mwyn datblygu’r agenda bolisi. Mae’r Mesur arfaethedig yn bwriadu datblygu’r cydlafurio rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach er mwyn cynyddu’r dewis o gyrsiau sydd ar gael i ddisgyblion a rhoi dogfen Llwybrau Dysgu arbennig i bob disgybl er mwyn cofnodi ei lwybr dysgu.

Fodd bynnag, mae’r pwyllgor wedi nodi nifer o rwystrau rhag gweithredu’r Mesur arfaethedig yn llwyddiannus ac wedi galw ar y Gweinidog i gyflwyno gwelliannau i’r Mesur arfaethedig yn ystod Cyfnod 2, ac ymdrin â nifer o faterion eraill cyn i’r Mesur ddod i rym.

Y meysydd a ganlyn yw’r rhai sy’n peri pryder:

  • Y seiliau dros benderfynu ar hawlogaeth, gan gynnwys proses apelio;

  • Disgyblion a waherddir;

  • Ymgynghori wrth gynllunio cwricwla ardal leol;

  • Y ddyletswydd i ystyried cydlafurio;

  • Strwythurau cyllido;

  • Defnyddio TG wrth gydlafurio;

  • Rheoliadau hyfforddiant;

  • Gallu disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i gymryd rhan;

  • Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr;

  • Darpariaeth cyfrwng Cymraeg a’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg;

  • Yr effaith ar ysgolion ffydd;

  • Yr amserlen ar gyfer gweithredu;

  • Asesu’r costau – fel y’u hamlinellwyd gan y Pwyllgor Cyllid.

Dywedodd Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y pwyllgor:

“Mae’r Mesur arfaethedig hwn yn arwydd o chwyldro ym maes 14-19. Eisoes mae llawer o enghreifftiau da o gydlafurio’n bodoli ledled Cymru, gan roi rhagor o ddewis i ddisgyblion. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yr arfer gorau hwn bellach yn cael ei ddatblygu drwy gyfrwng deddfwriaeth. O gofio pwysigrwydd y ddeddfwriaeth, mae’n hanfodol bod gweithredu’r ddeddfwriaeth yn cael ei gynllunio’n ofalus ac yn llwyddiannus, ac mae ein hadroddiad yn nodi’r meysydd hynny sydd angen ystyriaeth bellach.”

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Mesur arfaethedig a’r broses ddeddfwriaethol yn: http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/bus-legislative-meas-nhsrrev.htm

Nodiadau i olygyddion

Camau nesaf y Mesur yw:

  • Dadl Cyfarfod Llawn Cyfnod 1; (Llywodraeth y Cynulliad i bennu dyddiad)

  • Pwyllgor Cyfnod 2 – proses ffurfiol ar gyfer ystyried gwelliannau i’r Mesur arfaethedig; (y Pwyllgor Busnes i bennu amserlen)

  • Cyfnod 3, yn y Cyfarfod Llawn – proses ffurfiol ar gyfer trafod gwelliannau i’r Mesur arfaethedig; (dyddiad i’w bennu gan Lywodraeth y Cynulliad)

  • Cyfnod 4 – pleidlais ar y Mesur arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn