Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ar ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch tai fforddiadwy

Cyhoeddwyd 17/12/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ar ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch tai fforddiadwy

Mae’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch Tai Fforddiadwy, a sefydlwyd i graffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru ar dai fforddiadwy, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn rhai sydd â diddordeb.                                                                                

Bydd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 5) 2008 (y Gorchymyn arfaethedig) yn rhoi i’r Cynulliad y grym i wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes tai. Yn benodol bydd yn galluogi’r Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth mewn perthynas â gwaredu tai a thai annedd gan landlordiaid cymdeithasol.

Wrth graffu ar y Gorchymyn arfaethedig bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • Egwyddorion cyffredinol y Gorchymyn arfaethedig a ph’un a ddylai cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes a ddynodwyd ym                                ‘Mater 11.1 gael ei roi i’r Cynulliad            

  • Amodau’r Gorchymyn arfaethedig, ac yn benodol, a ydynt wedi’u diffinio’n rhy eang neu’n rhy gyfyng.          

Dywedodd Leanne Wood AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor hwn wedi derbyn y dasg o graffu ar gynigion Llywodraeth y Cynulliad. Ein swyddogaeth ni yw sicrhau bod y grym a geisir yn briodol a bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn addas i’w phwrpas.  Mae’r Pwyllgor yn awyddus iawn i glywed barn unigolion a sefydliadau ym maes tai, a fydd yn helpu i ddarparu gwybodaeth iddo yn ei waith. Fe hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn i ymweld â’n gwefan a chyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.”

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu barn gan rai sydd â diddordeb ar y cwestiynau canlynol:

  1. Beth yw eich barn ar yr egwyddor cyffredinol bod cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes a ddynodwyd ym Mater 11.1 yn cael ei roi i’r Cynulliad?

  2. Beth yw eich barn ar amodau’r Gorchymyn arfaethedig e.e. a ydynt wedi’u llunio’n rhy gyfyng neu’n rhy eang?

  3. A yw’n angenrheidiol nodi ystyr landlord cymdeithasol yn y Gorchymyn arfaethedig? Os felly, mewn perthynas ag ystyr landlord cymdeithasol, a yw’r rhestr o ddarpariaethau deddfwriaethol yn gywir neu a ddylid ychwanegu neu hepgor rhai ohonynt?

Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd dim hwyrach na dydd Llun, 28 Ionawr 2008. Os yn bosibl, dylech roi fersiwn electronig yn MS Word neu fformat Rich Text, un ai trwy gyfrwng e-bost Swyddfaddeddfwriaeth@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i’w craffu gan y cyhoedd ac fe allent gael eu gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgor hefyd. Os nad ydych am i’ch ymateb neu’ch enw gael ei gyhoeddi mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny ar ddiwedd eich cyflwyniad.