Pwyllgor yn mynegi pryder am gau cyfrifon llywodraeth leol yn gynnar

Cyhoeddwyd 23/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/11/2017

​Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi i nifer y cwynion rhwng 2011 a 2017 gynyddu 75 y cant, yn gynnwys cwynion yn erbyn rhai o gyrff y GIG.

Serch hynny, mae’r Ombwdsmon yn gwneud cais am lai o arian i ymchwilio i gwynion yn y flwyddyn ariannol nesaf na’r flwyddyn flaenorol. Priodolir yr arbediad hwn, ymysg ffactorau eraill, i effeithlonrwydd wrth ymchwilio i gwynion.

Fodd bynnag, mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn pryderu bod cynnydd yn nifer y cwynion am y GIG yn arwydd bod angen gwella gwasanaethau ac, os na fydd yn digwydd, mae’n debygol y gwelir cynnydd yn nifer y cwynion am y GIG bob blwyddyn.

Pryder y Pwyllgor yw y bydd staff yr Ombwdsmon dan bwysau oherwydd hyn a bod posibilrwydd y bydd angen cynnydd yn ei gyllideb yn y blynyddoedd i ddod. Wrth ystyried amcangyfrifon yr Ombwdsmon am y flwyddyn ariannol nesaf, clywodd y Pwyllgor Cyllid fod rhai cyrff lleol wedi cyflwyno swyddogion gwella i ymchwilio i gwynion ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, a bod hyn wedi arwain at gynnydd, yn enwedig mewn perthynas â datrysiadau cynnar ar gyfer cwynion. 

Er bod y Pwyllgor yn falch o weld y newid hwn, testun pryder oedd clywed bod rhai cyrff cyhoeddus yn methu â bodloni eu rhwymedigaethau o dan ddatrysiad cynnar, a bod hyn yn arwain at gostau pellach i’r Ombwdsmon a’r pwrs cyhoeddus. 

Er enghraifft, clywodd y Pwyllgor am achos dyn a oedd wedi cytuno ar gael ymddiheuriad a swm bach o ran iawndal yn dilyn triniaeth ar ei lygad, ond er gwaethaf i’r Ombwdsmon ofyn sawl gwaith, ni thalodd y bwrdd iechyd dan sylw’r iawndal. O ganlyniad, cyhoeddodd yr Ombwdsmon adroddiad arbennig yn erbyn y bwrdd iechyd hwnnw, gan arwain at fwy o gost.

Yn ôl Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, "Mae’r Pwyllgor yn cymeradwyo dull darbodus yr Ombwdsmon o baratoi ei amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf."

"Mae’n siomedig bod rhai sefydliadau’n cytuno ar ddatrysiad cynnar ond yna’n methu â bodloni eu rhwymedigaethau. Mae hyn yn effeithio ar waith yr Ombwdsmon, ac ar bwrs y cyhoedd, gan fod rhaid defnyddio rhagor o adnoddau i ymdrin â chŵyn.

"Mae’r cynnydd yn nifer y cwynion dros y chwe blynedd diwethaf yn dangos bod pobl yn fwy ymwybodol o’u hawliau a’u bod yn fwy hyderus o ran cymryd camau os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi.

"Mae’n galonogol gweld cynnydd yn y ffordd y mae rhai cyrff cyhoeddus yn ymdrin â’r cwynion sy’n dod i law, ac mae hynny wedi arwain at brofiad cyflymach a llai o straen i bawb dan sylw.

"Byddem yn annog i bob corff cyhoeddus ddysgu o’r cynnydd hwn i wella eu trefniadau ymdrin â chwynion."

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel rhan o gynnig y Gyllideb flynyddol.