Dylai deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru i warchod adeiladau hanesyddol a henebion symud i'r cyfnod nesaf yn y broses ddeddfwriaethol, yn ôl Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Ond, mae'r Pwyllgor wedi galw ar i'r Llywodraeth newid y Bil er mwyn sicrhau mwy o ddiogelwch i enwau lleoedd hanesyddol.
Cefnogodd y Pwyllgor y Bil, sydd i raddau helaeth yn newid deddfwriaeth bresennol sydd â'r nod o warchod a chadw henebion ac adeiladau hanesyddol Cymru. Yn benodol, awgrymwyd y byddai mesurau gorfodi newydd, megis hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau atal dros dro, yn rhoi gwell adnoddau i awdurdodau yn y frwydr i gadw treftadaeth Cymru.
Er iddo gefnogi'r Bil, amlygodd y Pwyllgor y ffaith bod enwau lleoedd Cymraeg hanesyddol yn ddiymgeledd o dan y gyfraith a gellir eu newid heb odid ddim o ran her. Yn ôl y Pwyllgor, bwlch yn y gyfraith y mae angen rhoi sylw iddo yw hyn.
"Mae'n hanfodol bod ein treftadaeth ddiwylliannol a phensaernïol yn cael ei diogelu i'r oesoedd a ddel. Rydym yn credu bod potensial ym Mil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) i gyfrannu at y nod hwnnw. Sut bynnag, clywsom dystiolaeth rymus am rôl enwau lleoedd hanesyddol ac am y goleuni unigryw maent yn ei roi ar dreftadaeth Cymru," meddai Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
"Roedd yn syndod clywed nad oes gan enwau sydd wedi bod ar glawr ers canrifoedd ddim gwarchodaeth statudol a bod modd eu newid yn hawdd. Credwn fod y Bil yn rhoi cyfle delfrydol i unioni hynny.
"Byddai yn dda gennym hefyd weld nifer o feysydd yn y Bil yn cael eu cryfhau, ac edrychwn ymlaen at ymateb cadarnhaol gan y Dirprwy Weinidog ar y materion hyn.
Bydd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn awr yn cael ei drafod gan y Cynulliad cyfan, a bydd yr Aelodau yn pleidleisio i benderfynu a chaiff y Bil symud i gyfnod 2 yn y broses ddeddfu.
Bilyr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Addroddiad Cyfonod 1
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yma.
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gael yma.
Lluniau: Russell Trow (Flickr), Jean Mottershead (Flickr) dan drwydded Creative Commons.