Aelod Anweithredol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru

Cyhoeddwyd 17/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2026

Recriwtio Aelod Anweithredol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru

Archwilydd Cyffredinol Cymru yw’r archwilydd allanol statudol annibynnol ar y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Corff corfforedig yw Swyddfa Archwilio Cymru ac iddo Fwrdd statudol â naw aelod, gan gyflogi staff a darparu adnoddau eraill i Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch sut y caiff ei swyddogaethau eu harfer.

Gyda’i gilydd, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithredu o dan hunaniaeth gyffredinol Archwilio Cymru.

Mae’r Senedd eisiau penodi rhywun i’r swydd wag isod i ddechrau ar 16 Mawrth 2027:

  • Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru (£12,500 y flwyddyn, amhensiynadwy, 2-3 diwrnod y mis)


Dyddiad cau: dydd Gwener 23 Hydref 2026

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.