Refferendwm ar bwerau deddfu'r Cynulliad Cenedlaethol yn dod gam yn nes ar ôl i Orchmynion gael eu cyflwyno

Cyhoeddwyd 21/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Refferendwm ar bwerau deddfu'r Cynulliad Cenedlaethol yn dod gam yn nes ar ôl i Orchmynion gael eu cyflwyno

21 Hydref 2010

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Gorchymyn sy’n cynnwys y trefniadau ar gyfer refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n nodi dyddiad y refferendwm, sef 3 Mawrth, a’r cwestiwn y bydd pleidleiswyr yn ei weld ar y papur balot.

Yn ogystal, y mae’r Gorchymyn yn amlinellu rheolau’r ymgyrch a gynhelir hyd at 3 Mawrth.

Cyflwynwyd ail Orchymyn hefyd, a fydd yn diweddaru Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dyma’r rhan o’r Ddeddf sy’n nodi manylion y pynciau y bydd gan y Cynulliad bwerau drostynt i wneud cyfreithiau os bydd yr ymgyrch ‘Ie’ yn llwyddiannus. Mae angen ei ddiweddaru i gyflwyno’r datblygiadau ym mhwerau presennol y Cynulliad ers 2006.

Bydd y Gorchmynion yn awr yn cael eu trafod gan Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau dau dy Seneddol San Steffan. Disgwylir i’r Cynulliad bleidleisio ar y Gorchmynion erbyn canol mis Tachwedd.

Os bydd cytundeb yn y tair siambr, bydd y refferendwm yn cael ei gynnal ar 3 Mawrth, a bydd y cyfnod ymgyrchu swyddogol yn dechrau 28 niwrnod cyn hynny, yn gynnar ym mis Chwefror.

Mae Gorchymyn

I gael rhagor o wybodaeth am y refferendwm