Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi’r cam cyntaf mewn rhaglen o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918.
Ar 6 Mawrth, bydd arddangosfa’n agor yn y Senedd a fydd yn archwilio’r ymgyrchoedd amrywiol i sicrhau’r bleidlais i ferched. Canolbwynt yr arddangosfa fydd portread o ail Is-iarlles y Rhondda (1883-1958), sef Margaret Haig Thomas, neu Margaret Mackworth. Bydd y portread ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru.
I gyd-fynd â'r arddangosfa, bydd y Senedd hefyd yn cynnal dau weithdy di-dâl ar 6 ac 8 Mawrth. Bydd y gweithdai, a gaiff eu cyflwyno mewn partneriaeth ag Amgueddfa Sain Ffagan a Phrifysgol Caerdydd, yn cynnwys baneri gwreiddiol a ddefnyddiwyd gan Gymdeithas Syffragetiaid Menywod Caerdydd a’r Fro yn ystod gorymdeithiau a phrotestiadau ddechrau’r 1900au.
Wrth lansio’r arddangosfa ar 6 Mawrth, bydd y Plac Porffor cyntaf yn cael ei ddadorchuddio hefyd fel rhan o ymgyrch Grŵp Merched Llafur y Cynulliad (ALWG) i dynnu sylw at yr hyn y mae merched nodedig Cymru wedi’i gyflawni.
Plac ar gyfer Val Feld fydd y Plac Porffor cyntaf. Val oedd un o brif benseiri datganoli, ac roedd yn rhan allweddol o’r ymdrech i sicrhau’r darpariaethau cyfle cyfartal yn Neddf Llywodraeth Cymru, a chyfrannodd yn helaeth at annog merched i fod yn rhan o wleidyddiaeth Cymru.
Bu farw Val yn 2001, dim ond dwy flynedd ar ôl cymryd ei sedd yn y Cynulliad fel Aelod Dwyrain Abertawe.
Bydd y Cynulliad yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth drwy weithio gyda phartneriaid i gyflwyno rhaglen o sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau.
Yn ystod y dydd, caiff Cynhadledd Prifysgol De Cymru, sef Merched a Gweithredu yng Nghymru: Ddoe a Heddiw, yn cael ei chynnal yn Pierhead. Bydd y Gynhadledd yn canolbwyntio ar ymgyrchoedd merched drwy gyfres o sgyrsiau a thrafodaethau bwrdd crwn. Dros ginio, bydd yr hanesydd Yr Athro Angela John yn lansio’i llyfr newydd, sef ‘Rocking the Boat: Welsh Women who Championed Equality 1840-1990 ', cyn digwyddiad i nodi gwaith Girlguiding Cymru dan arweiniad yr anturiaethwr Tori James sydd hefyd yn cynrycholi Cymru fel llysgennad Girlguiding UK.
Gyda’r nos, bydd y Senedd yn cynnal degfed Darlith Goffa flynyddol Ursula Masson mewn partneriaeth â'r Ganolfan Astudiaethau Rhywedd ym Mhrifysgol De Cymru ac Archif Menywod Cymru.
Dr Ryland Wallace, awdur ‘The Women’s Suffrage Movement in Wales 1866 – 1928’, fydd yn traddodi’r ddarlith.
Cyn y ddarlith, bydd Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn perfformio rhagolwg unigryw o'i gynhyrchiad newydd 'Rhondda Rips it Up!', sy'n adrodd hanes swffragét fwyaf nodedig Cymru, sef Arglwyddes y Rhondda, Margaret Haig Thomas. Bydd Lesley Garrett CBE, Madeleine Shaw a Nicola Rose yn perfformio ynghyd â Chorws Ysgolion WNO a phlant Ysgol Gynradd Llaneirwg a Willowbrooks. Bydd 'Rhondda Rips it Up ' yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf ar 7 Mehefin yn The Riverfront yng Nghasnewydd.
Cyhoeddir digwyddiadau eraill yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.
Os hoffech wybod sut i gael bod yn bresennol yn y digwyddiadau, ffoniwch linell archebu'r Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 6565 neu anfonwch e -bost at cysylltu@cynulliad.cymru .