Rhaglen Ddigwyddiadau’r Haf
12 Gorffennaf 2010
Bydd tîm Digwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bresennol yn y Sioeau Haf a ganlyn:
Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd 19 – 22 Gorffennaf
Yr Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy 31 Gorffennaf – 7 Awst
Mardi Gras, Caerdydd 4 Medi
Byddwn yn cynnal gweithgareddau amrywiol ym mhob digwyddiad yn cynnwys gweithdai a byddwn yn defnyddio’r murlun addysg newydd i ddangos sut mae’r Cynulliad wedi cael effaith ar ein bywyd bob dydd. Mae rhagor o fanylion am y digwyddiadau’n cynnwys:
Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd
Ar y rhaglen yn ein stondin yn Sioe Frenhinol Cymru eleni mae:
Dydd Llun – Trafodaeth ar y ddarpariaeth band eang yng nghefn gwlad Cymru. Mewn partneriaeth ag Ofcom. 11.00-13.00
Dydd Mawrth – Trafodaeth y Pwyllgor Cynaliadwyedd Rownd y Bwrdd – Sut y mae Ewrop yn effeithio ar Gymru? 12.00-13.00
Dydd Mercher –Trafodaeth rhwng y Ffermwyr Ifanc â’r Llywydd 11.00-12.00 Derbyniad y Llywydd 12.00-14.00 ‘Mae gweithio gyda’r Cynulliad yn gwneud gwahaniaeth’
Yr Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy
Eleni, yn ogystal â chludo bws y Cynulliad i’r Eisteddfod Genedlaethol a chynnal cyfres o weithgareddau a gweithdai ar y bws, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Eisteddfod a Phabell y Cymdeithasau i gynnal chwe sesiwn drafodaeth. Os hoffech gael rhagor o fanylion ynghylch y digwyddiadau peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r tîm digwyddiadau timdigwyddiadau@wales.gsi.gov.uk.