Rhaid atgyweirio’r ffyrdd sydd gennym cyn adeiladu rhai newydd

Cyhoeddwyd 24/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/10/2018

Dylai atgyweirio ffyrdd Cymru bod yn flaenoriaeth o flaen adeiladu rhai newydd, yn ôl Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad.

Road with pot hole in daytime

Mae cyflwr y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru wedi bod yn destun pryder i'r cyhoedd, sydd wedi bod yn ganolog i'r ymchwiliad i 'Gyflwr y Ffyrdd'. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod prinder arian a gwaith blaenoriaethu'n broblem amlwg a bod angen mabwysiadau dull hirdymor o ymdrin â'r broblem yn hytrach nag ymgymryd â gwaith o'r naill flwyddyn i'r llall.

Cynhaliwyd cystadleuaeth ffotograffau gan y Pwyllgor i godi ymwybyddiaeth o'i ymchwiliad, ac anfonwyd lluniau o bob cwr o Gymru yn dangos cyflwr y ffyrdd o safbwynt y cyhoedd. Roedd y ddelwedd fuddugol, gan Antony Maybury o Wrecsam, yn dangos lori'n mynd heibio i dwll mawr yn yr A525 ger Bronington. Aelodau'r Pwyllgor fu'n beirniadu'r delweddau a chawsant eu harddangos yn y Senedd ar ôl cyhoeddi'r enillydd.

Y rhwydwaith ffyrdd yw un o asedau mwyaf Cymru. Mae'n cynnwys 21,000 o filltiroedd o ffyrdd, ac amcangyfrifir ei fod yn werth £13.5 biliwn, ond mae wedi dirywio'n arw oherwydd tywydd garw, fel hwnnw a gawsom dros y gaeaf yn 2017-18, ac mae awdurdodau lleol yn brwydro i ymdopi â'r holl waith atgyweirio sy'n ôl-gronni.

Ers y gystadleuaeth, mae'r twll yn y ffordd wedi'i lenwi, ond mae cyflwr y ffyrdd yn dal yn broblem yn Wrecsam. 'Er bod un o'r tyllau wedi'i lenwi, mae eraill yno o hyd. Mae'r ffyrdd wrth ymyl fy nghartref i'n ofnadwy. Mae fel gyrru cerbyd traeth ar hyd y ffordd', dywedodd Maybury.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Strategaeth Drafnidiaeth arfaethedig Cymru roi blaenoriaeth i gynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd presennol yn lle adeiladu ffyrdd newydd. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu pwyllgor o arbenigwyr adeiladu ffyrdd i'w chynghori ynghylch y technegau a'r deunyddiau a allai arbed arian ar gynnal a chadw ffyrdd.

"Mae cyflwr ffyrdd Cymru yn bwysig iawn i bob un ohonom, p'un a ydym ni'n gyrru, yn beicio neu'n teithio ar y bws, rydym ni i gyd yn defnyddio'r ffyrdd," meddai Russell George AC, Cadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau.

"Mae'r pethau bob dydd sy'n ein cynnal, gan gynnwys llawer o'n bwyd, yn cael eu cludo ar y ffyrdd ac yn sicrhau bod yr economi'n dal i fynd.

"Un o'r agweddau ar yr ymchwiliad hwn sy'n sobri rhywun yw faint o'r materion a godwyd mewn astudiaethau blaenorol sy'n dal yn anodd. Mae consensws eang y byddai'r sefyllfa'n gwella pe bai cyrff llywodraeth leol ac asiantaethau cefnffyrdd yn cael cyllid hirdymor - ond rydym wedi'n dal o hyd yn y cylch blynyddol.

"Mae angen i ni weithredu'n awr, ac mae'r Pwyllgor hwn o'r farn y dylid rhoi blaenoriaeth amlwg i atgyweirio a gwella'r rhwydwaith sydd gennym ar hyn o bryd yn hytrach nag adeiladu ffyrdd newydd."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud pedwar argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai trategaeth arfaethedig, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, bennu blaenoriaeth glir ar gyfer cynnal y rhwydwaith ffyrdd presennol, prif-ffrydio ac uwchraddio'r seilwaith teithio llesol, a blaenoriaethu mynediad, yn hytrach nag adeiladu ffyrdd newydd.

  • Dylai Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol sicrhau y rhoddir blaenoriaeth a chyllid i waith cynnal a chadw wedi'i gynllunio dros y tymor hir sy'n gost-effeithiol er mwyn lleihau atgyweiriadau tymor byr mwy costus.

  • Os gall Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid pum mlynedd i Drafnidiaeth Cymru, yna gall - a dylai – wneud yr un peth i awdurdodau lleol.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnull grŵp rhanddeiliaid tebyg i Grŵp Effeithlonrwydd Palmentydd Highways England i gynghori ar y deunyddiau a'r prosesau mwyaf effeithiol.

    Bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn trafod yr adroddiad.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau:Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru (PDF, 1 MB)