​​Rhaid gwneud mwy dros gleifion sy'n cael gofal iechyd parhaus gan y GIG, yn ôl pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 31/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/03/2015

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad dilynol heddiw ar ofal iechyd parhaus y GIG yng Nghymru.

Pecyn gofal a chymorth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG a ddarperir i fodloni holl anghenion unigolion sydd wedi'u hasesu, gan gynnwys anghenion yn ymwneud â gofal corfforol, meddyliol a phersonol.

Yn ei adroddiad cychwynnol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013, cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG - y canllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod er mwyn i wasanaethau iechyd eu dilyn. Canfu'r adroddiad fod yna anghysondeb yn y modd y mae'r canllawiau yn cael eu cymhwyso ledled y wlad a bod yna ddiffyg dealltwriaeth ymysg y cyhoedd ynghylch pwy sy'n gymwys i gael cyllid a sut i wneud cais.

Yn ei adroddiad diweddaraf, mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod gwelliannau wedi'u gwneud ers 2013, ond mae'n teimlo bod rhaid gwneud mwy i sicrhau bod cleifion a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg, yn gwybod beth yw eu hopsiynau ac yn cael gwybod sut y gwneir penderfyniadau am y gofal maent yn ei dderbyn.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro cynnydd y Byrddau Iechyd o ran prosesu hawliadau ôl-weithredol a'r amser a gymerir i brosesu a datrys yr hawliadau hyn;
  • bod Llywodraeth Cymru yn dosbarthu taflen wybodaeth i'r cyhoedd ar ofal iechyd parhaus a bod canllawiau gorfodol yn cael eu rhoi i Fyrddau Iechyd a darparwyr gofal cymdeithasol ynghylch ble y dylid darparu gwybodaeth yn ymwneud â gofal iechyd parhaus;
  • bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella cysondeb, ansawdd ac ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau eiriolaeth a ddarperir gan Fyrddau Iechyd.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: 'Rydym yn cydnabod bod gwelliannau wedi'u gwneud ers ein hadroddiad cyntaf ar y mater hwn, ond rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweiniad i yrru gwelliannau i system gofal iechyd parhaus y GIG. Dylai ein hargymhellion helpu i sicrhau y gall cleifion a'u teuluoedd fod yn hyderus bod y system yn deg, yn dryloyw ac yn gyson ledled Cymru. ' 

Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal lechyd Parhaus y GIG (PDF, 393KB)