“Rhaid i fuddiannau myfyrwyr fod yn ganolog i’r Bil addysg drydyddol” – Lynne Neagle AC

Cyhoeddwyd 04/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2019


Deddf Addysg Uwch (Cymru) a'r dyfodol

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio'i adroddiad yn edrych ar ba mor dda y mae Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 wedi gweithio. Roedd y Pwyllgor eisiau sicrhau bod y gwersi o'r Ddeddf hon yn cael eu hadlewyrchu yn y Bil addysg drydyddol newydd, sydd i'w gyflwyno yn 2020. Bydd y Bil hwn yn cymryd lle'r Ddeddf Addysg Uwch a disgwylir iddo newid addysg ôl-16 yn sylweddol, gan ddod â darparwyr addysg amrywiol iawn o dan un Comisiwn newydd ar hyd braich ar gyfer addysg drydyddol.

Clywodd y Pwyllgor feirniadaeth gref o'r Ddeddf gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys prifysgolion a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Clywodd nad yw'r gyfraith yn rhoi goruchwyliaeth i CCAUC ar rai meysydd darpariaeth addysg uwch, sy'n peryglu buddiannau myfyrwyr ac arian cyhoeddus. Clywodd hefyd nad yw'r Ddeddf yn gallu delio'n effeithiol ag amheuaeth o lywodraethu gwael mewn prifysgolion, mater sy'n bwysig ei gael yn iawn.

Beth sy'n bwysig i fyfyrwyr

Hefyd, gwnaeth y Pwyllgor argymhellion ar gyfer egwyddorion y mae'n disgwyl eu gweld yn y Bil addysg drydyddol newydd, yn seiliedig ar wersi'r ymchwiliad hwn. Mae'r Pwyllgor yn credu nad yw'r ddeddfwriaeth gyfredol yn adlewyrchu buddiannau myfyrwyr yn dda, ac nad yw'n deall yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i fyfyrwyr, fel darpariaeth iechyd meddwl, cael mynediad at lety fforddiadwy, cael gwerth am arian, y cyfleusterau ar y campws, eu cyflogadwyedd a mynediad at wasanaethau myfyrwyr. Rhaid i'r Bil newydd wella hyn a chael syniad llawer gwell ac ehangach o fuddiannau myfyrwyr, ac mae'n rhaid iddo'u diogelu.


Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

"Rydym ni wedi dysgu llawer o wersi o'r Ddeddf Addysg Uwch, ac rydym yn awyddus iawn i weld y gwersi hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Bil addysg drydyddol newydd. Mae'r Bil newydd hwn yn gyfle unigryw i greu gweledigaeth ar gyfer addysg ôl-16 sy'n gosod myfyrwyr a dysgwyr yn ganolog iddo – dysgwyr sy'n gallu gwireddu eu potensial llawn, waeth beth fo'u cefndir.

"Rydym ni am sicrhau nad yw'r uchelgeisiau diwygio gwreiddiol – sy'n cynnwys blaenoriaethu anghenion dysgwyr a gwireddu doniau pob dysgwr – yn cael eu gwasgu a'u gwthio allan o'r Bil addysg drydyddol. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried ein hargymhellion yn ofalus a chefnogi'r uchelgais wreiddiol honno. Mae'r Ddeddf Addysg Uwch yn canolbwyntio ar ddarparwyr – rhaid i'r Bil newydd ganolbwyntio mwy ar ddysgwyr."



 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (PDF, 2 MB)