Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi ymateb i adroddiad gan Archwilio Cymru yn ymwneud â £504 miliwn o arian yr UE sydd yn weddill i’w wario yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys £446 miliwn ar gyfer y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a £58 miliwn ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr her sy’n wynebu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a chyfarwyddiaeth materion gwledig Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod Cymru’n cael y gwerth gorau am arian o’r cronfeydd sy’n weddill cyn diwedd 2023.
Meddai Mark Isherwood AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd:
“Mae’r Pwyllgor yn cydnabod cymhlethdod yr her sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a WEFO. Nid tasg hawdd yw taro cydbwysedd rhwng tanwariant a gorwariant, o ystyried y risgiau niferus sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.
“Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod Cymru’n cael y gorau o’r £504 miliwn o gyllid yr UE sydd ar gael cyn diwedd 2023, rhaid i Lywodraeth Cymru a WEFO gynnal capasiti staffio priodol i gefnogi gwiriadau trylwyr a phrosesu parhaus.
“Mae cynllunio a rheoli pwysau ar y gweithlu yn fater y mae’r Pwyllgor eisoes wedi’i archwilio gyda Llywodraeth Cymru, ac rydym yn cefnogi sylwadau’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch ei bwysigrwydd yn yr achos hwn yn enwedig.
“Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod nesaf ac yn penderfynu pa waith craffu pellach sydd ei angen maes o law.”
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol - Gwneud y Mwyaf o Arian yr UE: y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a’r Rhaglen Datblygu Gwledig - ar gael ar wefan Archwilio Cymru.