Rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau seilwaith economaidd gogledd Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 22/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau seilwaith economaidd gogledd Cymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

22 Awst 2013

Mae cryfhau seilwaith Cymru fel uned gydlynol i wella ei chystadleurwydd economaidd yn hanfodol, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch cyfres o faterion seilwaith pwysig sy’n effeithio ar ogledd Cymru, gan gynnwys uwchraddio’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chyffordd Saltney. Mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos ‘arweinyddiaeth, ac eglurder o ran ei diben’ wrth roi’r cynllun hwn ar waith ar ôl clywed bod y cynllun wedi wynebu oedi sylweddol.

Byddai’r cynllun hwn, yr amcangyfrifir y bydd yn costio £36 miliwn, yn dyblu’r traciau rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer, gan gynnig rhagor o gapasiti a chyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd sylweddol.

Yn ystod cyfarfod yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, fis diwethaf, clywodd y Pwyllgor nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddigon o bwerau gorfodi dros Network Rail (y corff sy’n gyfrifol am gynnal a gwella rheilffyrdd y Deyrnas Unedig) i fynd â’r cynllun yn ei flaen.

Wrth gefnogi ymdrechion i sicrhau bod pwerau pellach dros seilwaith y rheilffyrdd yn cael eu datganoli, galwodd y Pwyllgor am gynnydd yn nhrafodaethau Llywodraeth Cymru â Network Rail ac amserlen glir o ran pryd y bydd y gwaith yn cael ei wneud.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, “Mae’r cynllun rhwng Wrecsam a Chyffordd Saltney yn addo manteision sylweddol i bobl gogledd Cymru, ac mae’r oedi yn destun siom.

“Hoffai’r Pwyllgor weld Gweinidogion yn dangos arweinyddiaeth a bod â diben clir wrth ddwyn y cynllun hwn yn ei flaen cyn gynted â phosibl.”

O ran prosiectau mawr ar gyfer seilwaith y ffyrdd, galwodd y Pwyllgor am ragor o fanylion am weithredu cynllun i gael gwared ar y dagfa bresennol ar yr A494 yn Aston Hill, gan nodi bod coridor yr A494/A55 yn borth pwysig i Gymru.

Ar bwnc prosiectau ynni mawr, clywodd y Pwyllgor bryderon am yr effaith ar fusnesau lleol.

Roedd cwestiwn a gyflwynwyd gan aelodau o’r cyhoedd drwy Twitter yn gofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cymunedau’n cael rhai manteision gan ddatblygiadau seilwaith mawr (er enghraifft, drwy daliadau ariannol uniongyrchol, cymorth ar gyfer prosiectau bywyd gwyllt neu berchnogaeth ar gynlluniau ynni adnewyddadwy yn y gymuned).

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod angen mabwysiadu dull mwy cadarn a strategol ar draws pob math o ddatblygiad seilwaith mawr, gan alw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei meddylfryd a’i dulliau mewn perthynas â’r mater pwysig hwn.

Dywedodd Mr Melding, “Gofynnwyd y cwestiwn ar fanteision prosiectau seilwaith mawr i’r gymuned leol gan aelodau’r cyhoedd a gysylltodd â’r Pwyllgor drwy ein hashtag Twitter #HoliPW.

“Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed y Prif Weinidog yn ymateb yn gadarnhaol i’r syniad o gymunedau lleol yn elwa’n uniongyrchol, a soniodd am yr angen i feddwl yn ehangach yn y maes hwn a defnyddio’r Bil diwygio cynllunio newydd i sicrhau trefniadau newydd.”

“Hoffem weld y dull newydd hwn yn dwyn ffrwyth.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 10 argymhelliad mewn llythyr i’r Prif Weinidog, gan gynnwys:

  • yr angen i amlinellu sut mae’r Prif Weinidog yn cynnig datblygu meddylfryd a dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod cymunedau lleol yn cael buddion uniongyrchol o bob math o ddatblygiad seilwaith mawr, p’un a yw wedi’i leoli yn eu hardaloedd neu’n effeithio arnynt.

  • yr angen i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth, ac eglurder o ran ei diben, wrth fwrw ymlaen â chynllun Wrecsam i Gyffordd Saltney cyn gynted â phosibl.

  • yr angen i gyhoeddi pryd y bydd cynllun i ddileu’r dagfa bresennol yn Aston Hill ar yr A494 yn cael ei weithredu.