Aelodau’r Pwyllgor Deisebau ar ymweliad â Chronfa Ddŵr Pontsticill

Aelodau’r Pwyllgor Deisebau ar ymweliad â Chronfa Ddŵr Pontsticill

Rhaid i ni wneud yn well er mwyn atal marwolaethau o ganlyniad i foddi - adroddiad y Senedd

Cyhoeddwyd 02/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae angen arweinyddiaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru er mwyn atal marwolaethau o ganlyniad i foddi yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan y Senedd. 

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ymchwilio i ddiogelwch dŵr ac atal boddi yng Nghymru ar ôl i ymgyrch gan Leeanne Bartley o Ruthun weld dros 11,000 o bobl yn llofnodi ei deiseb.

Bu farw mab Leeanne, Mark Allen, wedi iddo neidio i ddŵr oer yng Nghronfa Ddŵr Gorton, Manceinion, ym mis Mehefin 2018. Ers hynny, mae wedi ymgyrchu'n ddiflino dros wella mesurau diogelwch dŵr yng Nghymru a ledled y DU, gan gynnwys y deisebau sy'n galw am wneud offer achub yn orfodol.

Canfu'r adroddiad fod mesurau atal boddi yn cael eu llesteirio gan ddiffyg waith cydlynu gan Lywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, nid yw diogelwch dŵr yn dod o dan gyfrifoldeb un gweinidog penodol, ac mae’r mater yn rhychwantu gwahanol adrannau'r Llywodraeth. 

Mae'r Pwyllgor wedi argymell pecyn o fesurau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r peryglon sy’n gysylltiedig â dŵr ac i wella diogelwch dŵr - gan gynnwys dyrannu gweinidog penodol i arwain y gwaith hwn. Byddai hynny'n helpu ymgyrchwyr i gyflwyno un neges addysgol gyson ar draws Cymru gyfan - sy'n hollbwysig, yn ôl arbenigwyr, er mwyn atal marwolaethau o ganlyniad i foddi.

Yn ystod y saith mis roedd y Pwyllgor yn ymchwilio i'r mater, bu farw o leiaf tri pherson ifanc o ganlyniad i foddi yng Nghymru. Mae'n dangos bod angen gweithredu ar frys, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Jack Sargeant AS:

“Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom gan y deisebydd a theuluoedd eraill sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i foddi. Rydym wedi clywed am yr effaith ddinistriol y mae trasiedi o'r fath wedi'i chael ar eu bywydau, ond hefyd am eu hymroddiad diwyd i godi ymwybyddiaeth a sicrhau nad oes rhagor o fywydau’n cael eu colli o ganlyniad i foddi yn y dyfodol.

“Mae eu gwaith eisoes yn achub bywydau - ond gyda gwaith cydlynu ac arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru, gall yr ymgyrchoedd hyn gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ac yn y pen draw, atal marwolaethau.

“Rhaid inni wneud yn well fel gwlad, a gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi hwb i bawb sy’n gweithio’n galed i wneud hynny.”

Clywodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru. Dywedodd:

“Mae tua 50 o bobl yn colli eu bywydau mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’r gyfradd sy’n boddi’n ddamweiniol fesul pen o'r boblogaeth yma yng Nghymru oddeutu dwbl y gyfradd ar gyfer y DU gyfan. Mae nifer y marwolaethau damweiniol o ganlyniad i foddi, yn anffodus, hefyd yn uwch na nifer y marwolaethau mewn tanau, er enghraifft, damweiniau beiciau modur a beicio—tri achos blaenllaw iawn arall o farwolaethau damweiniol."

Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn dod ag unigolion a sefydliadau ynghyd sydd â diddordeb mewn diogelwch dŵr ac atal boddi. Bu'r sefydliad yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026, gyda'r nod o leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru i sero. 

Fodd bynnag, nodwyd yn yr ymchwiliad bod angen ffurfioli'r bartneriaeth hon gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau trefniadau ariannu i alluogi Diogelwch Dŵr Cymru i gyflawni’r gwaith pwysig hwn. 

Clywodd y Pwyllgor am yr heriau o osod, cynnal a defnyddio cortynnau taflu yn effeithiol, gan gydnabod eu bod yn un o ystod o fesurau diogelwch i'w hystyried i liniaru'r risgiau a nodwyd mewn dŵr, a’u bod mewn rhai amgylchiadau yn gallu rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch.

Dywedodd Leeanne Bartley ei bod yn croesawu'r adroddiad a'i argymhellion:

"Mae'r adroddiad yn cynnig hyd yn oed yn fwy nag y gallen ni fod wedi gofyn amdano pan ddechreuon ni'r ddeiseb - rydw i mor ddiolchgar i'r Senedd am glywed ein stori ac am wrando arnon ni a'r teuluoedd eraill sydd wedi colli rhywun o ganlyniad i foddi.

"Ond mae gwaith i'w wneud o hyd ac rwy’n mynd i barhau i ymgyrchu - rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r argymhellion hyn ac yn parhau i weithio gyda ni ar ddiogelwch dŵr."

Darllen yr adroddiad.