Rhaid sicrhau cysondeb ledled Cymru wrth gyflwyno’r ‘Cwricwlwm i Gymru’ – pwyllgor y Senedd

Cyhoeddwyd 04/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2020

​Lleisiwyd pryderon gan un o bwyllgorau'r Senedd am sut y bydd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn sicrhau bod pob plentyn ysgol yng Nghymru yn cael yr un cyfleoedd a phrofiadau o'u haddysg.

 O dan y Bil, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cwricwlwm newydd i Gymru ar gyfer plant rhwng 3 a 16 oed, gan ddisodli'r cwricwlwm cenedlaethol presennol sydd wedi bod ar waith ers 1988 yng Nghymru a Lloegr.

Byddai'n dilyn dull pwrpasol, wedi'i drefnu o amgylch meysydd eang yn hytrach na phynciau cul, a byddai'n rhoi hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau addysg eraill ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, yn seiliedig ar anghenion eu plant a'u pobl ifanc, ond o fewn fframwaith cenedlaethol a bennwyd gan y llywodraeth.

Mae'r dull wedi'i gymeradwyo gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

Er bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, mae'n pryderu bod risg sylweddol yn gysylltiedig â'r hyblygrwydd hwn os na roddir mesurau diogelu ar waith i sicrhau bod plant a phobl ifanc ym mhob rhan o Gymru yn cael addysg sy'n ddigon cyson. 

Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi'r adroddiad yma

Yn benodol, mae'r Pwyllgor eisiau gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau y bydd pob lleoliad a phob dysgwr yn ffynnu o dan y cwricwlwm newydd ac na fydd yr anghydraddoldebau presennol yn gwaethygu. Mae'r Aelodau wedi gofyn am sicrwydd ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei fonitro.

Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu a datblygu proffesiynol i baratoi athrawon ar gyfer addysgu'r cwricwlwm newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd yn gwario tua £15 miliwn y flwyddyn tan 2025-26, yn ogystal â'r cyllid presennol ar gyfer datblygiad proffesiynol.

Ond mae'r Pwyllgor yn gofyn a yw pandemig y coronafeirws wedi arwain at leihad yn nifer y cyfleoedd i athrawon ymgymryd â'r gweithgareddau dysgu a datblygu sydd eu hangen mewn pryd ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno fesul cam o fis Medi 2022 ymlaen yn ôl y cynlluniau presennol.

"Rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru nad yw'r cwricwlwm presennol yn addas ar gyfer Cymru fodern. Mae'r cyfle y mae'r Bil hwn yn ei gynnig i ysgolion lunio eu cwricwlwm eu hunain, yn seiliedig ar anghenion disgyblion, yn feiddgar ac yn uchelgeisiol, ac mae ganddo'r potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol os caiff ei weithredu'n llwyddiannus.

"Mae ein pryderon yn ymwneud â'r ochr ymarferol o ran sut i gyflwyno'r cwricwlwm hwn yn effeithiol; a oes digon o amser i hyfforddi staff i'w gyflwyno'n effeithiol; a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn cyfrannu at godi safonau ac yn rhoi'r un cyfleoedd a phrofiadau i ddisgyblion yn eu haddysg.

"Dyma'r newid mwyaf i'n system addysg ers dechrau datganoli. Mae angen i ni sicrhau bod y cydbwysedd cywir yn cael ei daro rhwng hyblygrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol, yn anad dim er mwyn osgoi unrhyw risg y bydd yr anghydraddoldebau presennol yn gwaethygu yn hytrach nag yn gwella.

 "Rydym yn cydnabod na fydd y cwricwlwm newydd yn unffurf ar draws pob ysgol ond rhaid iddo fod yn gyson." - Lynne Neagle AS, Cadeirydd y Pwyllgor 

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 66 o argymhellion yn ei adroddiad, ar draws ystod eang o faterion. Mae'r rhain yn cynnwys, ymhlith eraill, argymhellion mewn perthynas â'r canlynol:

  • y Gymraeg a'r Saesneg;
  • addysg cydberthynas a rhywioldeb;
  • crefydd, gwerthoedd a moeseg;   
  • trefniadau ar gyfer dilyniant, asesu, a chymwysterau;
  • gweithredu'r ddeddfwriaeth; a
  • goblygiadau ariannol y Bil.

Bydd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn cael ei drafod gan y Senedd ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr, cyn pleidlais i benderfynu a ddylai symud i gam nesaf proses ddeddfu'r Senedd.