I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Plentyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio arolwg materion Senedd Ieuenctid Cymru. Pwrpas yr arolwg yw rhoi cyfle i bobl ifanc Cymru siapio pa faterion dylai’r Senedd cyntaf ei drafod.
Mae hyn yn cyd-fynd ag Erthygl 12 o Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig, sy’n ymwneud â llais pobl ifanc:
Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried.
Dyma wythnos olaf yn Etholiad cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru gyda 460 o ymgeiswyr rhwng 11 a 18 oed ar draws 40 etholaeth yng Nghymru yn ymgyrchu i gael eu hethol yn Aelodau o’r Senedd. Bydd 20 arall yn cael eu hethol gan sefydliadau partner gyda’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar Ragfyr 5ed.
Bydd canlyniad yr arolwg arlein yn llywio beth fydd Senedd Ieuenctid Cymru yn ei drafod yn y cyfarfod llawn cyntaf yn y Senedd ym mae Caerdydd ym mis Chwefror 2019.
Meddai Delyth Lewis, Arweinydd Prosiect, Senedd Ieuenctid Cymru;
“Dros y chwe mis diwethaf mae tim Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn holi pobl ifanc mewn gwyliau, digwyddiadau ymgysylltu ac yn ystod ymweliadau ysgolion a’r Cynulliad pa bynciau llosg sydd o bwys iddyn nhw. O’r 2,000 o bynciau ry ni wedi dethol y ffefrynnau a gallwn nawr roi cyfle i bobl ifanc dros Gymru ddewis beth fydd blaenoriaethau’r Senedd cyntaf drwy’r holiadur arlein. Ar ddiwrnod Rhyngwladol y Plentyn mae’n bwysig ein bod ni’n pwysleisio hawl i blant leisio’u barn a bydd canlyniadau’r arolwg yn bwydo’n uniongyrchol i waith ein Senedd Ieuenctid cyntaf yma yng Nghymru.”
Mae rhai o’r pynciau yn holiadur yn cynnwys Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl, Cydraddoldeb a Hawliau, Bwlio a Seiberfwlio a Brexit a’i Effaith ar ddyfodol Cymru.
https://www.seneddieuenctid.cymru