Rhy gynnar i benderfynu a fydd Mesur y Gymraeg yn ddigon i gefnogi’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Cyhoeddwyd 09/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2019

Mae'n rhy gynnar i benderfynu a yw Mesur y Gymraeg yn ddigonol i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol.


Fodd bynnag, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes angen deddfwriaeth newydd ar hyn o bryd, ac mae'n argymell fod Mesur 2011 yn cael ei adolygu yn ystod y Cynulliad nesaf.  

Daw adroddiad y Pwyllgor yn sgil cynnal ymchwiliad ar Gefnogi a Hybu'r Gymraeg. Nod yr ymchwiliad oedd cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Fel rhan o'r ymchwiliad, fe wnaeth y Pwyllgor asesu llwyddiannau a chyfyngiadau'r ddeddfwriaeth, gan edrych hefyd ar effaith Safonau'r Gymraeg a pha mor effeithiol ydyn nhw o ran gwella mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried pa mor effeithiol yw'r broses gwyno a phwy sydd â chyfrifoldeb dros hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Bu'r Pwyllgor hefyd yn clywed tystiolaeth er mwyn ystyried a chymharu sefyllfa'r iaith Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol.

Wrth ddod i gasgliad, roedd y Pwyllgor yn teimlo'n rhwystredig nad oedden nhw wedi gweld mwy o gynnydd yn y gwaith o gyflwyno Safonau'r Gymraeg yn y sectorau lle nad ydyn nhw wedi cael eu gweithredu eto. Mae'r Pwyllgor yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amserlen ar gyfer gweithredu'r Safonau yn y prif sectorau sy'n weddill, fel y gwasanaethau dŵr, nwy a thrydan, asiantaethau tai a thrafnidiaeth.

Dywedodd Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Rydym wedi clywed tystiolaeth sy'n awgrymu nad yw'r Mesur yn berffaith, ac y byddai elfennau o fewn y ddeddfwriaeth yn elwa o gael eu diweddaru. Mae hyn yn arbennig o wir wrth drafod y gwaith o gyflwyno'r safonau i'r sectorau ble nad ydyn nhw'n cael eu gweithredu eto, fel y gwasanaethau dŵr, nwy a thrydan, asiantaethau tai a thrafnidiaeth. Rydym yn argymell fod Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn ystyried sut i gyflymu'r gwaith yma.

"Fodd bynnag, ni chawsom ein hargyhoeddi, ar y cyfan, fod angen deddfwriaeth newydd ar hyn o bryd, na bod y dystiolaeth ar gyfer hynny yn arbennig o gadarn.

"Ni ddylai deddfwriaeth fyth aros yn ei unfan, ac mi ddylai adlewyrchu anghenion cymdeithas ar y pryd. Rydym yn argymell bod y Pwyllgor hwn, neu Bwyllgor cyfatebol, yn ymrwymo i gynnal adolygiad llawn o'r Mesur yn y Chweched Cynulliad."

Hyrwyddo'r Gymraeg

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo'r iaith Gymraeg, a bod angen bod yn fwy eglur wrth ddiffinio rôl a chyfrifoldebau'r Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg yn y maes hwn.

Hefyd, fe wnaeth y Pwyllgor argymell fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ffordd o weithio ar draws ei hadrannau sy'n sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried gan bob maes polisi. Dylid rhoi cefnogaeth lawn i'r ffordd yma o weithio, os yw'r Llywodraeth am gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg fel rhan o strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr.

Dywedodd Bethan Sayed AC: 

"Fel Pwyllgor, byddem yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn dilyn ffordd ehangach o feddwl am gefnogi'r iaith Gymraeg ar draws ei holl adrannau, gan sicrhau bod holl bolisïau'r Llywodraeth yn gyson ac yn creu'r amodau cywir i gyflawni nod Cymraeg 2050. Drwy ddatblygu cynllun a fydd yn cydlynu holl agweddau o waith y Llywodraeth, fe fydd modd iddyn nhw gadw golwg ehangach dros eu polisïau a'u gweithgarwch yn ymwneud ag addysg, cynllunio, datblygu economaidd a datblygu gwledig, er enghraifft.

"Roedd y dystiolaeth yn glir mai swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn bennaf yw hybu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Wedi'r cyfan, Llywodraeth Cymru sydd â'r prif ddylanwad dros bolisi a'r adnoddau allweddol sydd eu hangen i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd o'r iaith."

Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.