Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pwysleisio'r angen am drefniadau rhynglywodraethol ffurfiol gyda rôl benodedig i'r deddfwrfeydd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan rybuddio bod hyn yn hanfodol i warchod y setliadau datganoli.
Gwnaed y sylwadau gan Elin Jones AC wrth iddi groesawu aelodau'r Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit i gyfarfod yn y Senedd heddiw (Hydref 25).
Fe wnaeth aelodau'r Fforwm, sy'n cynnwys gwleidyddion blaenllaw o Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ddod ynghyd i asesu'r datblygiadau diweddaraf yn negodiadau Brexit wrth i'r trafodaethau ddwysáu.
Wrth groesawu aelodau o amryfal ddeddfwrfeydd y DU i'r Senedd, dywedodd y Llywydd ei bod yn cydnabod yr effaith sylweddol a geir ar lwyth gwaith a gweithdrefnau pob senedd yn sgil y penderfyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Meddai:
"Yma yn y Senedd, rydym wedi bod yn gweithio'n galed wrth ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni er mwyn diogelu buddiannau pobl Cymru a chywirdeb ein setliad cyfansoddiadol ar yr adeg hon o ansicrwydd mawr."
"Mae'r cydweithio rhwng y Cynulliad a sefydliadau eraill wedi cynyddu, ac felly y mae'n parhau. Ynn y fforwm hwn fe welir esiampl o'r ffordd y mae cynrychiolwyr etholedig o wahanol bleidiau, ac o safbwyntiau gwahanol o ran Brexit, yn gallu cydweithio i ddatrys heriau cyffredin."
"Sut bynnag ffurf fydd iddynt, bydd yn rhaid i unrhyw drefniadau newydd ar gyfer gwneud penderfyniadau rhynglywodraethol, barchu'r setliad datganoli, ynghyd â bod yn destun gwaith craffu effeithiol gan ddeddfwrfa pob cenedl - sy'n egwyddor a anwybyddwyd, yn anffodus, lawer yn rhy aml. Rydym yn gwybod y bydd fframweithiau i'r DU gyfan yn nodwedd allweddol yn y dyfodol a rhaid wrth drefniadau cadarn ar gyfer craffu effeithiol ar fframweithiau o'r fath."
"Gyda chymaint o ffactorau anrhagweladwy, mae'r sefyllfa'n gofyn am hyblygrwydd digynsail gan ein sefydliadau wrth i heriau cyfreithiol a gwleidyddol godi.
Un peth, fodd bynnag, na chaiff fod yn destun cyfaddawd yw'r parch a roddir i setliadau cyfansoddiadol ein seneddau.
Ni ddylai ymdrechion i weithredu'r ewyllys democrataidd a fynegir yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd danseilio'r ewyllys democrataidd a fynegir yn y refferenda datganoli cyn hynny a roddodd fandad i'r lle hwn wneud cyfreithiau."
Ffocws y fforwm, a oedd yn cynnwys swyddogion o Gynulliad Gogledd Iwerddon hefyd, oedd trafod goblygiadau Brexit i holl lywodraethau'r DU a datblygu trefniadau cydweithio seneddol pellach er mwyn sicrhau y ceir mwy o waith craffu. Hefyd, trafododd yr Aelodau y berthynas rhwng deddfwrfeydd y DU a'r Undeb Ewropeaidd ar ôl ymadael â'r Undeb.