Sefydlu Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd 07/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Sefydlu Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru.

Cytunodd y Cynulliad ar gynnig i sefydlu Pwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru a fydd yn cynnwys yr Aelodau sy’n cynrychioli’r rhanbarth hwnnw a’r etholaethau ynddo, ddydd Mercher Tachwedd 7 Cytunodd y Cynulliad hefyd ar gynnig i roi cyfarwyddiadau i’r Pwyllgor sy’n datgan: 1. Bydd y Pwyllgor yn trafod materion datganoledig sy'n effeithio ar Ranbarth Etholiadol Gogledd Cymru yn unig; 2. Ni fydd y Pwyllgor yn cyfarfod mwy nag unwaith ym mhob tymor y Cynulliad; 3. Bydd y Pwyllgor fel rheol yn cyfarfod yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Colwyn; a 4. Yn eithriadol, a chyda cytundeb y Pwyllgor Busnes yn unig, gall y Pwyllgor Rhanbarth gyfarfod mewn lleoliadau eraill yn Rhanbarth Etholiadol Gogledd Cymru yn amodol ar bwynt 2 uchod.