Senedd Ieuenctid Cymru yn pleidleisio dros flaenoriaethu iechyd meddwl a lles

Cyhoeddwyd 19/02/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2022   |   Amser darllen munudau

​Iechyd Meddwl a Lles fydd ffocws ymdrechion Senedd Ieuenctid Cymru dros y ddwy flynedd nesaf wrth iddyn nhw sefyll dros y materion sydd o bwys i bobl ifanc Cymru.

Heddiw, bu’r Aelodau yn cwrdd am y tro cyntaf ers cael ei hethol gan ei cyfoedion yn Nhachwedd 2021.

Yn ystod y cyfarfod, gwnaeth bob Aelod araith i berswadio'r Aelodau i bleidleisio dros yr achos roedden nhw fwyaf angerddol drosti. Roedd y drafodaeth yn cynnwys ystod eang o bynciau, o faterion LHDTC+ ac aflonyddu rhywiol, i dlodi a digartrefedd.

Ar ôl clywed o bawb, aeth yr ail Senedd Ieuenctid Cymru ati i fwrw ei phleidlais i benderfynu ar flaenoriaethau’r Senedd am y tymor.

Y tri mater bydd y Senedd Ieuenctid yn canolbwyntio ar fydd: Ein Hiechyd Meddwl a Lles, Hinsawdd a’r Amgylchedd, ac Addysg a’r Cwricwlwm Ysgol.

Y Llywydd, Elin Jones MS, a’r Is-lywydd, David Rees MS cadeiriodd y diwrnod a oedd yn cynnwys datganiadau emosiynol gan rai Aelodau a oedd wedi eu heffeithio’n bersonol gan afiechyd meddwl.

Wrth i’r Senedd ddadlau am y testunau i flaenoriaethu, roeddent hefyd yn  ystyried canlyniad arolwg barn miloedd o bobl ifanc a chafodd dweud eu dweud ar ba bynciau roedden nhw’n meddwl oedd bwysicaf.

Yn siarad â’r Aelodau heddiw, dywedodd y Llywydd, Elin Jones MS: “Rwy’n falch iawn ein bod ni, fel Senedd Cymru, yn parhau i roi llwyfan i bobl ifanc ein gwlad drafod materion sy’n agos at eich calonnau.

“Mae eich cyfraniadau wedi bod yn aeddfed ac arwyddocaol wrth i chi gynrychioli pobl ifanc Cymru ar y pynciau pwysicaf i chi.

“Mae’n dipyn o fraint ac yn gyfrifoldeb, ond does gen i ddim amheuaeth ar ôl gwrando ar eich areithiau heddiw bod gennych chi’r ddawn a’r brwdfrydedd i lwyddo. Edrychwn ymlaen at glywed gennych dros y ddwy flynedd nesaf.”

Dywedodd Keira Bailey-Hughes, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros yr elusen GISDA: “Mae 1 o bob 6 plentyn yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl ond er hyn, dim ond 6.7% o gyllid iechyd meddwl sy’n mynd ar wasanaethau plant. Er mwyn brwydro yn erbyn salwch iechyd meddwl, mae rhaid cael ymyrraeth gynnar.

“Mae pobl yn y gymuned cwîar  rhwng dwy neu dair gwaith yn fwy tebygol na phobl heterorywiol a hilrywiol o adrodd bod ganddyn nhw broblem iechyd meddwl.

“Drwy gydol fy llencyndod rydw i wedi dioddef o salwch meddwl - mae iselder a gor-bryder wedi bod yn rhan amlwg o fy mywyd.

“Mae'r agwedd gyffredinol tuag at salwch meddwl yn peri pryder cynyddol i mi; rwy’n ofni ein bod yn magu’r don nesaf o anoddefgarwch. Mae'n ymddangos ein bod ni'n methu, a thu hwnt i argyfwng. Mae rhaid i ni ailffocysu ein cyllid tuag at bobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol.”

Bydd yr Aelodau nawr yn mynd ati i gynnal sesiynau grŵp i drafod eu blaenoriaethau ac i ymgynghori gyda phobl ifanc yn eu hetholaethau a gyda mudiadau partner y Senedd Ieuenctid dros y misoedd nesaf.