Heddiw (24 Mai), mae’r Senedd wedi cytuno pa Aelodau fydd ar y pwyllgor a fydd yn archwilio’r ymateb i bandemig Covid-19 yng Nghymru.
O'r enw ‘Y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru’, bwriad y pwyllgor trawsbleidiol yw craffu ar rai o’r penderfyniadau a wneir yng Nghymru tra’n ymateb i bandemig Covid-19.
Bydd y Pwyllgor yn dilyn Ymchwiliad Covid-19 y DU ac yn canolbwyntio ar unrhyw fylchau ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru.
Ar 16 Mai, pleidleisiodd y Senedd o blaid sefydlu’r Pwyllgor diben arbennig, yn dilyn cynnig a gyflwynwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig.
Heddiw, cytunodd y Senedd y bydd Joyce Watson (Llafur Cymru) a Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig) yn dod yn Gyd-Gadeiryddion y Pwyllgor.
Yr Aelodau eraill fydd:
- Vikki Howells (Llafur Cymru),
- Jack Sargeant (Llafur Cymru),
- Altaf Hussain (Ceidwadwyr Cymreig),
- Adam Price (Plaid Cymru).