#Senedd10 – cofnod o "arloesedd a gwelliant parhaus"

Cyhoeddwyd 01/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/03/2016

Bydd Dydd Gŵyl Dewi eleni yn nodi deng mlynedd ers agor y Senedd – cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

I nodi'r achlysur hwn bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, yn cynnal derbyniad amser cinio ar gyfer rhanddeiliaid a phartneriaid allanol sydd wedi cyfrannu at waith y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (2011-16).

Bydd y bobl a fydd yn bresennol yn y digwyddiad yn cynnwys rhai sydd wedi gwneud cyfraniad uniongyrchol at waith pwyllgorau'r Cynulliad, yn craffu ar Lywodraeth Cymru ac ar gyfreithiau Cymru.

 Bydd y derbyniad, a gaiff ei gynnal yn y Senedd rhwng 12.00 a 14.00 (ar 1 Mawrth), hefyd yn cynnwys pobl ifanc a gymerodd ran yn sgwrs Genedlaethol y Cynulliad ynghylch Pleidleisio@16 ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio, a menywod sydd wedi cael eu cefnogi gan gynllun datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus #POWiPL y Llywydd neu wedi elwa ohono.

Yn ystod y digwyddiad, bydd y Fonesig Rosemary yn traddodi anerchiad ar yr hyn a gyflawnwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad – sy'n gofnod o "welliant ac arloesi parhaus" yn y broses o ddarparu gwasanaethau seneddol.

Bydd y Fonesig Rosemary yn dweud: "O fy sefyllfa unigryw fel Llywydd, gallwn weld cyfleoedd ar gyfer newid.

"Rwyf wedi ysgogi nifer o newidiadau i'n harferion ac wedi'u datblygu, i sicrhau y bydd rhagor o graffu ar Lywodraeth Cymru.

"Dyna ein gwaith fel y corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. 

 "Mae gwaith craffu effeithiol yn rhan hanfodol o unrhyw ddiwylliant democrataidd, felly bu bwrw golwg o'r newydd ar sut y mae modd creu cyfleoedd i fywiogi ein harferion a'n gweithdrefnau yn bwysig iawn i mi."

Yn ei haraith, bydd y Fonesig Rosemary yn canolbwyntio ar bedwar maes "gwella ac arloesi" allweddol o ran darparu gwasanaethau Seneddol:

Y Cyfansoddiad:

Bydd y Llywydd yn ailddatgan ei hymrwymiad i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir fel y penderfynir ar y setliad cyfansoddiadol yng Nghymru yn y dyfodol yn Senedd y DU. I sicrhau y ceir setliad:

  • sy'n cynrychioli'n deg ein haeddfedrwydd fel sefydliad seneddol; a
  • sy'n darparu eglurder a chydlyniant, nid yn unig ar gyfer y Cynulliad ond ar gyfer pobl Cymru. 

Busnes:

Bydd y Llywydd yn canolbwyntio ar y newidiadau y mae hi wedi'u rhoi ar waith i wneud busnes y Cynulliad yn fwy amserol.

Mae newidiadau a gyflwynwyd yn cynnwys:

    • amserlenni cyflwyno byrrach ar gyfer cwestiynau llafar er mwyn gwella amseroldeb ac amrywiaeth o ran gwaith craffu Aelodau'r meinciau cefn ar waith Gweinidogion;
    • Dadleuon gan Aelodau unigol â chynigion trawsbleidiol;
    • amser penodedig ar gyfer 'cwestiynau Arweinwyr' yn ystod amser cwestiynau'r Prif Weinidog, sydd wedi rhoi cyfle i arweinwyr y pleidiau holi'r Prif Weinidog yn fanwl heb rybudd; a
    • 'Chwestiynau Llefarwyr' yn ystod cwestiynau llafar y Cynulliad sy'n caniatáu i lefarwyr y pleidiau ofyn tri chwestiwn i Weinidogion heb rybudd.

 Y cyhoedd yn ymgysylltu â gwaith y Cynulliad:

 Bydd y Llywydd yn amlinellu sut y mae'r Cynulliad wedi cynyddu ei ymgysylltiad â phobl Cymru, gan gynnwys:

  • bod 30,000 o bobl ifanc wedi'u cyrraedd gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy ymweliadau ysgolion, rhaglenni allgymorth a dulliau eraill;
  • bod 13,000 o bobl ifanc wedi ymwneud yn uniongyrchol â gwaith y Cynulliad yn y ddwy flynedd ddiwethaf fel tystion a roddodd dystiolaeth i bwyllgorau;
  • bod 10,500 o bobl ifanc eraill wedi ymgysylltu â ni yn ein hymgynghoriad ar ostwng yr oed pleidleisio i 16 mlwydd oed;
  • Ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus #POWiPL, i annog rhagor o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

 Cynulliad cynhwysol:

Bydd y Llywydd yn tynnu sylw at y ffaith bod y Cynulliad:

  • Wedi dod yn drydydd yn rhestr 100 uchaf Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall UK ar gyfer 2016;
  • Wedi'i gydnabod yn Gyflogwr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio;
  • Wedi'i gydnabod fel sefydliad cynhwysol ar gyfer pobl ag awtistiaeth;
  • Wedi cael gwobr rhagoriaeth Action on Hearing Loss Cymru ers 2013.

I ddathlu dengmlwyddiant agor y Senedd, bydd y Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn cynnal:

  • Noson o sgwrs gyda'r Arglwydd Richard Rogers, y pensaer a gynlluniodd yr adeilad, a fydd yn digwydd yn y Senedd am 18.00;
  • Penwythnos Teulu yn y Senedd ar Mawrth 5-6 gan gynnwys:
    • perfformiadau gan Sioe Cyw S4C; Côr Ysgol Glanaethwy - cystadleuwyr rownd derfynol Britain's Got Talent; Côr City Voices a syrcas No Fit State. 
    • darperir gweithdai barddoniaeth gan Llenyddiaeth Cymru ac Anni Llŷn, bardd plant Cymru hefyd.
    • gweithgareddau gan gynnwys celf a chrefft, peintio wynebau a chwarae meddal i'r teulu cyfan ei fwynhau.

 Hefyd bydd David Melding AC, y Dirprwy Lywydd yn derbyn y neges Dydd Gŵyl Dewi flynyddol gan ddisgyblion Ysgol Dewi Sant, Tyddewi am 14.30 yn y Neuadd.

 

I weld adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Cynulliad, cliciwch yma (PDF, 11MB)

 I weld adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes, cliciwch yma (PDF, 1.05MB)