#Senedd2011: Democratiaeth yn yr oes rwydweithiol
29 Mawrth 2011
Cynhelir digwyddiad ar 30 Mawrth, yn adeilad hanesyddol y Pierhead yng Nghaerdydd, i drafod y dulliau y mae pobl am eu defnyddio i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Gwahoddir blogwyr, ymgyrchwyr ar-lein, newyddiadurwyr a’r cyhoedd i gyfres o sgyrsiau a thrafodaethau am y ffordd orau o ddefnyddio dulliau digidol i ddylanwadu ar y broses ddeddfu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Cynulliad ar flaen y gad o ran defnyddio technoleg yn y broses ddemocrataidd; mae’n defnyddio dulliau pleidleisio electronig yn y Cyfarfodydd Llawn, mae’n annog pobl i gyflwyno tystiolaeth ar-lein i ymchwiliadau pwyllgor a chaiff yr holl Gyfarfodydd Llawn a’r holl gyfarfodydd pwyllgor eu darlledu ar-lein ar Senedd tv.
Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad fydd Andy Williamson o Hansard, Alison Preston o Ofcom, y newyddiadurwr amlgyfrwng Marc Webber a David Babbs o 38 Degrees, corff sy’n ymgyrchu ar-lein.
“Gall technolegau digidol fod yn rhan o’r broses o feithrin y diwylliant democrataidd sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru,” meddai Peter Black AC, Comisiynydd Cynulliad sy’n gyfrifol am ennyn diddordeb pobl yng ngwaith y Cynulliad.
“Mae’r modd rydym yn addasu i’r technolegau yn dyngedfennol a bydd yn dylanwadu ar union natur y ddemocratiaeth sy’n datblygu.
“Mae dau lwybr sydd yr un mor beryglus â’i gilydd - gall mabwysiadu pob un tegan digidol newydd sgleiniog greu problemau difrifol os byddant yn methu neu os bydd pobl yn rhoi’r gorau i’w defnyddio.
“Ar y llaw arall, os na symudwn yn ddigon cyflym, mae’n bosibl y bydd y senedd yn cael ei diystyru mewn trafodaethau cyhoeddus a gall droi’n fwyfwy amherthnasol.
“Mae angen rhoi sylw i’r modd y gellir cydgysylltu trafodaethau ar lwyfannau gwahanol.”
Ymgynghorydd i’r Cyfryngau Digidol yw Carl Morris, ac mae’n gweithio i NativeHQ, sy’n cyd-drefnu #Senedd2011: “Mae’r digwyddiad hwn yn y Pierhead yn rhoi cyfle i bob un ohonom ddysgu oddi wrth ein gilydd ac archwilio sut y gall ein democratiaeth fanteisio i’r eithaf ar y cyfryngau digidol.
“Mae llawer y gellir ei wneud i wella’r broses ddemocrataidd yng Nghymru, o lunio polisïau i ymgynghori, ac o ymgyrchu i ddwyn ein gwleidyddion i gyfrif.
“Mae hyn yn mynd y tu hwnt i etholiadau, mae’n ymwneud â materion sy’n effeithio ar bobl bob dydd.”
I gloi’r diwrnod, bydd panel yn trafod cwestiynau gan y gynulleidfa a chan bobl a fydd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Gall pobl ddilyn y digwyddiad naill ai drwy ddod i’r Pierhead ddydd Mercher, neu drwy ddilyn Twitter gan ddefnyddio’r hashtag #Senedd2011.
#Senedd2011 starts at 10.30 on Thursday 30 March at the Pierhead in Cardiff Bay.
Bydd #Senedd2011 yn dechrau am 10.30 ddydd Iau 30 Mawrth yn y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Os ydych yn bwriadu dod, gofynnir i chi neilltuo lle drwy anfon e-bost at geraint.huxtable@wales.gov.uk neu ffoniwch 029 2089 8201.
Dyma ragor o fanylion am y digwyddiad, gan gynnwys cefndir y siaradwyr i’w cael isod:
Cyflwyniad 1 Andy Williamson, Hansard
Bydd Hansard yn rhoi cyflwyniad gan drafod a chymharu seneddau o wahanol rannau o’r byd a’r modd y maent yn defnyddio technoleg i ennyn diddordeb eu hetholwyr.
Cyflwyniad 2 Alison Preston, Uwch Reolwr Ymchwil Ofcom ar gyfer Llythrennedd yn y Cyfryngau / Iwan Williams, Pennaeth y Cyfryngau, Brandio ac e-Ddemocratiaeth
- Gwaith Ofcom ar e-lythrennedd ac e-ddemocratiaeth yng Nghymru
- Cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i roi sgwrs fer am ein hymgyrch ar-lein Pleidleisiwch 2011, gan ddangos sut arall y gall y cyhoedd gymryd rhan yn y broses ddemcrataidd ar hyn o bryd (e-ddeisebau, Twitter) a holi – beth sydd ei eisiau ar blogwyr/cymunedau ar-lein? Rhagor o adnoddau? Rhagor o gysylltiadau â thîm Allgymorth y Cynulliad?
Cyflwyniad 3 – Marc Webber
Bydd y newyddiadurwr amlgyfrwng Marc Webber yn trafod sut y mae cynrychiolwyr yn ein cymuned - ACau, ASau, ASEau, cynghorwyr – yn defnyddio technoleg – mae hwn yn gyfrwng cyfathrebu mor newydd, a ydynt yn manteisio i’r eithaf arni?
Cyflwyniad 4 - David Babbs, Davis Babb sy’n arwain ymgyrch ar-lein 38 Degrees, sy’n credu mai pobl ddylai fod â’r pwer yn y gymdeithas ac maent yn honni mai ymgyrch ar-lein 38 Degrees oedd yn gyfrifol am achub BBC 6Music ac am atal Trident rhag cael ei adnewyddu am 5 mlynedd arall o leiaf.
12 hanner dydd – grwpiau seminar
Rhennir pawb yn bedwar grwp, a bydd pob grwp yn mynd gydag un o’r siaradwyr i drafod agweddau ar ei gyflwyniad mewn seminar, gan godi rhagor o bwyntiau, trafod gwahanol agweddau ar ei waith yn fanylach.
2pm sylwadau gan y panel - bydd pob siaradwr yn rhoi cyflwyniad byr (2 funud) ar y gwahanol themâu a godwyd yn ystod y seminar.
2.15pm trafodaeth panel – dan arweiniad Matt Withers (gohebydd y Western Mail yn y Senedd). Bydd y panel yn ateb cwestiynau o’r llawr (a chwestiynau gan bobl sy’n cysylltu ar Twitter o bosibl). Neilltuir 30 munud ar gyfer cwestiynau. Disgwylir i’r digwyddiad ddod i ben am 2.45.
DIWEDD