Sgwrs ar y we gyda’r Llywydd

Cyhoeddwyd 15/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Sgwrs ar y we gyda’r Llywydd

15 Mawrth 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn estyn gwahoddiad
i ddisgyblion chweched dosbarth ledled Cymru i gymryd rhan mewn sgwrs ar y we, mewn
partneriaeth â’r Western Mail.

Hoffai’r Llywydd wybod pa faterion mae myfyrwyr yn meddwl y dylai gwleidyddion
yn y Senedd fod yn eu hystyried.

Gwahoddir ysgolion i gyflwyno’u cwestiynau o flaen llaw a gallant gymryd rhan yn y
drafodaeth fyw ar-lein rhwng 10.30 a 11.30 ddydd Iau 22 Mawrth. Y wobr am y cwestiwn
gorau fydd cyfle i un myfyriwr gynnal cyfweliad ar gamera gyda’r Llywydd i’w ddefnyddio
ar wefan WalesOnline.

Os ydych am gymryd rhan, llenwch y ffurflen atodedig a’i hanfon i archebu@cymru.gov.uk