Staff y Cynulliad yn torchi llewys er budd Hosbis George Thomas
30 Gorffennaf 2010
Mae gwirfoddolwyr o Gyfarwyddiaeth Gwasanaeth Pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi treulio deuddydd yr wythnos hon yn creu llwybr cerdded drwy goetir ar gyfer cleifion yn Hosbis George Thomas yng Nghaerdydd.
Dros y tri mis diwethaf mae’r tîm o wirfoddolwyr wedi arwain ymgyrch godi arian i geisio codi £2000 ar gyfer y Prosiect Gardd Goetir ar dir yr Hosbis.
Codwyd arian drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau yn y Cynulliad gan gynnwys stondinau gwerthu teisennau, llyfrau a nwyddau amrywiol a chynnal cyngerdd elusennol gyda pherfformiadau gan staff.
Mae staff wedi clirio coetir a oedd wedi gordyfu, wedi tyllu ffos ac wedi rhoi concrid ar lwybr ar ddarn o dir 40 medr yr wythnos hon.
Yn y dyfodol, gobeithir gosod meinciau yn yr ardd a bydd blodau’n cael eu plannu i greu awyrgylch ymlaciol i gleifion a’u teuluoedd.
“Mae’r cymorth a ddarperir gan yr hosbis i bobl sy’n wynebu canser ac afiechydon eraill lle mae bywyd yn y fantol, a’u teuluoedd, heb ei ail, felly roeddem eisiau rhoi rhywfaint o gymorth ymarferol i’w cynorthwyo yn eu gwaith,” meddai Sarita Marshall sy’n Ddirprwy Glerc Pwyllgor yn yr adran.
“Gweithiodd y tîm yn galed i godi arian ar gyfer y Prosiect Gardd Goetir ac rydym yn falch o’r canlyniadau. Gobeithiwn y bydd y llwybr yn darparu amgylchedd braf ar gyfer cleifion yr Hosbis a’u teuluoedd .”
Dywedodd Margaret Pritchard, Prif Weithredwr Gofal Hosbis George Thomas: ‘Rydym wrth ein bod, ac yn hynod ddiolchgar, am y gwaith a wnaed a’r cymorth ariannol a gafwyd gan y gwirfoddolwyr o’r Cynulliad Cenedlaethol.”
“Fel yr hosbis leol yng Nghaerdydd sy’n darparu cymorth lleol i gleifion a’u teuluoedd rydym yn ymdrechu i ddiwallu’r galw cynyddol am y gwasanaeth a ddarparwn yn ein cymuned.
“Mae gwirfoddolwyr yn hynod o bwysig i’n gwaith ac mae’r rhai o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fu’n gweithio yn ein tir a’n gerddi’n ein helpu i ddatblygu cyfleuster pwysig iawn i gleifion .
“Mae llawer o’n cleifion, pan allant, yn dod i’n canolfan hosbis am ofal dydd a bydd y llwybr drwy’r coetir yn fodd iddynt gael mwynhad mawr ac i ymlacio.
“Drwy eu hymdrechion mae’r gwirfoddolwyr o’r Cynulliad Cenedlaethol yn ein helpu ni, fel prif ddarparwr gofal lliniarol arbenigol yn y gymuned yng Nghaerdydd, i helpu eraill ar amser anodd yn eu bywydau.”