System ddeisebu Cymru yn cyrraedd carreg filltir wrth i Bwyllgor y Cynulliad dderbyn ei ddeiseb rhif 150 ym mhwll nofio cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 26/03/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

System ddeisebu Cymru yn cyrraedd carreg filltir wrth i Bwyllgor y Cynulliad dderbyn ei ddeiseb rhif 150 ym mhwll nofio cenedlaethol Cymru

Ymunodd Ellie Simmonds a David Roberts, enillwyr y fedal aur yn y Gemau Paralympaidd, â grwp o bobl ifanc ag anableddau dysgu i gyflwyno deiseb i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw (26 Mawrth).

Yn sgil derbyn y ddeiseb hon, bydd y Pwyllgor wedi derbyn cant a hanner o ddeisebau ers cyflwyno’r system ym mis Mai 2007.

Mae’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ehangu’r cynllun nofio am ddim i holl bobl ifanc Cymru.

Ar hyn o bryd, cyfyngir y cynllun nofio am ddim i wyliau’r ysgol yn unig ond esbonia pobl o’r Ammanford Gateway Group (AGG) ei fod yn anoddach iddynt ddefnyddio pyllau nofio yn ystod gwyliau’r ysgol oherwydd bod cymaint o bobl eraill yn eu defnyddio.

Maent yn cyflwyno eu deiseb gyda help cynllun partneriaid mewn gwleidyddiaeth Mencap Cymru a’i nod yw annog mwy o bobl sydd ag anableddau dysgu i gymryd rhan yn y broses wleidyddol.

Dyma’r rheswm y dewisodd y grwp ymuno â rhai o nofwyr sgwad Paralympaidd Prydain ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe heddiw.

Dywedodd Lowri Davies, merch 15 oed o Rydaman: “Ni fydd pobl ag anableddau dysgu yn gallu manteisio ar y cynllun nofio am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol yn aml gan fod y pyllau nofio’n rhy llawn.

“Mae gan fy mrawd anabledd dysgu a hoffai fanteisio ar y cynllun nofio am ddim drwy’r flwyddyn.”

Dywedodd ennillydd medal aur Paralympaidd Ellie Simmonds: "Pan ddechreuais nofio, roeddwn yn nofio gyda phlant heb anabledd, ond roedd yn waith caled i ddal sylw gyda chymaint o bobl eraill o gwmpas. Byddai’n fendith pe bai amser yn cael ei neilltuo mewn pyllau nofio ar gyfer plant fel y rhai o Rydaman."

Dywedodd ei chydymaith, David Roberts o Bontypridd, sydd wedi ennill naw medal aur mewn tair gêm Paralympaidd: "Pan wnes i ddarganfod fy mod yn dioddef o barlys yr ymennydd yn 11 oed, dywedodd arbenigwyr mai nofio byddai’r ffisiotherapi gorau. Roedd cael hanner awr am yn ail ddydd Sul werth y byd i mi."

Ychwanegodd Val Lloyd AC, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae’n wych gweld grwp o’r fath yn cyflwyno deiseb i ni.

“Mae’r ddeiseb hon yn ymwneud ag annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn democratiaeth yn ogystal â chynyddu mynediad i bobl anabl ac annog mwy o bobl ifanc i fynd i nofio.

“Mae’r Pwyllgor wedi edrych ar 150 o ddeisebau ers 2007. Mae llawer ohonynt eisoes wedi arwain at newidiadau cadarnhaol ym mywydau pobl.

“Diben y Pwyllgor hwn yw dangos i bobl fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu sicrhau newid gwirioneddol, a hwnnw’n newid y mae’r cyhoedd yn awyddus i’w weld.”

Dywedodd Liz Neal, Cyfarwyddwr Mencap Cymru: “Mae’n wych gweld pobl ifanc o Rydaman yn defnyddio system ddeisebu’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Nod prosiect partneriaid mewn gwleidyddiaeth Mencap Cymru yw rhoi’r sgiliau a’r hyder i bobl ifanc ag anableddau dysgu i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.

“Mae hefyd yn briodol fod y ddeiseb hon yn gofyn i bobl ifanc gael eu cynnwys yn y cynllun nofio am ddim gan fod llawer o blant a phobl ifanc anabl yn parhau i gael eu heithrio o gyfleodd i gymdeithasu.”

Caiff y ddeiseb ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau cyn penderfynu ar y camau nesaf i’w cymryd.

Enghreifftiau o ddeisebau blaenorol y bu’r Pwyllgor yn edrych arnynt:

1) Ysgol Hen Felin - Cyflwynodd disgyblion o Ysgol Hen Felin dystiolaeth i’r Pwyllgor a fu’n rhannol gyfrifol am benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i gynyddu’r cyllid ar gyfer gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol i bobl ifanc anabl. Cyflwynodd y Pwyllgor y wybodaeth hon i’r ysgol dwy gynhyrchu clip fideo.

2) Gwahardd bagiau plastig – Cyfeiriwyd y ddeiseb hon at y Pwyllgor Cynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad i’r mater. Er nad yw bagiau plastig wedi cael eu gwahardd yn gyfan gwbl, argymhellodd y Pwyllgor y dylid codi ffi i ddelio â’r broblem. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor.

3) Pride in Barry - Roedd y ddeiseb hon yn ymwneud â defnyddio’r arian a gafwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o werthu tir yn y Barri. Cyfeiriwyd y ddeiseb hon at y Pwyllgor Menter a Dysgu i’w hystyried. Cynhaliodd y Pwyllgor gyfarfod cyhoeddus yn y Barri gan holi’r Dirprwy Brif Weinidog yn uniongyrchol am hyn.

Er nad oedd y ddeiseb wedi cyflawni ei nod wreiddiol, trafodwyd y mater ac roedd y deisebydd yn falch o’r cynnydd a wnaed a’r cyfle a gafwyd i leisio barn ynghylch y mater.

David Roberts, enillydd medalau aur yn y gemau Paralympaidd, yn ymuno â pherson ifanc sydd ag anawsterau dysgu ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Cymru, Abertawe

David Roberts, enillydd medalau aur yn y gemau Paralympaidd, yn ymuno â pherson ifanc sydd ag anawsterau dysgu ym Mhwll Nofio Cenedlaethol Cymru, Abertawe

Ellie Simmonds, enillydd medal aur, yn helpu person ifanc o'r Ammanford Gateway Group i gyflwyno deiseb i Aelodau'r Cynulliad

Ellie Simmonds, enillydd medal aur, yn helpu person ifanc o'r Ammanford Gateway Group i gyflwyno deiseb i Aelodau'r Cynulliad