System deg a thryloyw ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad yn anelu at fod "yn Gywir i Gymru".

Cyhoeddwyd 06/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

System deg a thryloyw ar gyfer rhoi cymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad yn anelu at fod "yn Gywir i Gymru”

Cyflwynwyd canlyniadau adolygiad cynhwysfawr a phellgyrhaeddol o sut y gall Aelodau’r Cynulliad hawlio cyflog a lwfansau am deithio, llety, ariannu swyddfeydd etholaeth a staff cymorth i Lywydd y Cynulliad heddiw ac i Gomisiynwyr y Cynulliad.

Mae’r adroddiad, Yn Gywir i Gymru, yn deillio o ymchwiliad deng mis gan banel annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Syr Roger Jones. Lluniwyd amrywiaeth o argymhellion ar ôl casglu tystiolaeth gan aelodau’r cyhoedd, cyn-Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau presennol ac aelodau o gyrff yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Mae’r panel hefyd wedi ystyried sut mae cyrff seneddol eraill, gan gynnwys y rhai yn Queensland a Seland Newydd, yn cynnig taliadau cydnabyddiaeth a chymorth ariannol i’w haelodau.

Dyma’r tro cyntaf yn y DU i adolygiad gael ei gyhoeddi o sut y gall cynrychiolwyr etholedig hawlio cymorth ariannol ers i’r cythrwfl dros dreuliau Aelodau Seneddol ddechrau yn San Steffan yn gynharach eleni.

Dywedodd Syr Roger Jones, Cadeirydd y panel adolygu annibynnol: "Mae amseriad comisiynu’r adolygiad hwn yn ystod gwanwyn 2008 yn dystiolaeth o ymrwymiad hir sefydlog y Cynulliad i atebolrwydd a thryloywder.

"Credaf yn gryf y bydd mabwysiadu’r argymhellion a geir yn adroddiad y panel y caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac Aelodau’r Cynulliad ail-sefydlu ffydd ac ymddiriedaeth pobl Cymru yn y broses ddemocrataidd ddatganoledig.

"Bydd ein hargymhellion hefyd yn gadarnhad pendant fod y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeddfwrfa aeddfed a gwir ddatganoledig sy’n arwain y blaen ymysg cyrff seneddol y Deyrnas Unedig ac yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru.

"Un o brif argymhellion yr adroddiad, felly, yw torri’r cysylltiad rhwng cyflog Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol San Steffan ar unwaith. Nid yw’n fanteisiol nac yn briodol cadw’r cysylltiad hwn.

"Ar ben hynny, rydym yn argymell dileu nifer o daliadau sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi, gan gynnwys dileu’r caniatâd i hawlio taliadau llog morgais ar ail gartrefi’r Aelodau yng Nghaerdydd.

"Rydym hefyd yn argymell lleihau nifer yr Aelodau y caniateir iddynt gael ail gartrefi o 51 i 25 - ac yn awgrymu, yn hytrach, bod y Cynulliad yn darparu llety ar rent iddynt ym Mae Caerdydd.”

Cyflwynwyd adroddiad y panel i Gomisiwn y Cynulliad heddiw. Cadeirydd y Comisiwn yw’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad. Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas yn gwneud datganiad ar ymateb y Comisiynwyr i’r adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.

Dywedodd Syr Roger, "Credaf yn gryf y bydd gweithredu’n hargymhellion yn llawn yn caniatáu i’r Cynulliad fod yn gorff democrataidd sy’n gwasanaethu buddiannau Cymru ac yn gywir i Gymru.”