Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 heb gynnydd sylweddol yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd.
Daeth y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i’r casgliad bod gwendidau yn y modd y mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar yn ehangu addysg Gymraeg ar hyd a lled y wlad. Yn ôl yr adroddiad, nid yn unig does dim digon o staff i sicrhau’r twf angenrheidiol mewn ysgolion Cymraeg ond hefyd, does dim digon o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gwelwyd gostyngiad yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg dros y deng mlynedd diwethaf – yn enwedig ymhlith y rhai rhwng tair a phymtheg oed.
Hyfforddiant
Un o’r prif ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella’r sefyllfa yw drwy gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith drwy gynnig gwersi am ddim i’r rhai sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith.
Un agwedd allweddol a gafodd sylw yn ymchwiliad y Pwyllgor oedd effeithiolrwydd y rhaglenni hyfforddi hyn. Mae'r Cynllun Sabothol yn annog athrawon presennol i ddysgu neu loywi eu Cymraeg ac mae Iaith Athrawon Yfory yn rhoi grantiau i athrawon newydd i'w hannog i weithio ym maes addysg Gymraeg.
Mae Dyfodol i’r Iaith, sy’n ymgyrchu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, yn amcangyfrif bod angen i 17,000 o athrawon gofrestru ar y Cynllun Sabothol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei tharged a chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
I fynd i’r afael â’r prinder athrawon Cymraeg eu hiaith mewn ysgolion, mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi’n sylweddol i sicrhau bod rhagor o athrawon, cymorthyddion dysgu a darlithwyr yn cofrestru ar y Cynllun Sabothol i wella’u Cymraeg.
Mae'r ymchwiliad hefyd yn awgrymu y gellid ehangu’r cynllun i gynnwys ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy'n gweithio gyda phlant iau mewn meithrinfeydd.
Achrediad
Mae athrawon sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu hyfforddi i addysgu amrywiaeth eang o bynciau, ond nid o reidrwydd i addysgu mewn gwahanol sefyllfaoedd. Er enghraifft, os byddant yn symud o ysgol lle mae nifer fawr o blant o gefndiroedd Cymraeg i ysgol lle nad yw’r Gymraeg yn iaith naturiol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Enlli Thomas o Brifysgol Bangor a oedd yn dadlau bod y gwahaniaeth hwn yn gofyn am hyfforddiant arbenigol i athrawon gan fod anghenion ieithyddol a diwylliannol pob ysgol ac ardal yn wahanol.
Ar sail y dystiolaeth, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu agwedd sy’n rhoi mwy o sylw i’r gwahaniaethau hyn mewn addysg Gymraeg ac ystyried y posibilrwydd o greu system achredu ar gyfer athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai hyn yn sicrhau bod athrawon yn dysgu sgiliau penodol i addysgu yn y Gymraeg ar draws y wlad.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, “Mae’r Gymraeg yn iaith sy’n perthyn i bob un ohonom yng Nghymru a dylai fod yn destun pryder mawr i ni nad yw nifer y siaradwyr yn cynyddu. Mae’r Pwyllgor hwn yn cefnogi’r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae’r uchelgais hwnnw mewn perygl difrifol os bydd pethau’n parhau fel y maent.
“Mae’n amlwg bod cael digon o athrawon sy’n gallu siarad Cymraeg yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r mater hwn ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos gwir uchelgais dros y blynyddoedd nesaf. Dylid annog mwy o athrawon i ddysgu Cymraeg a dylai’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg blynyddoedd cynnar allu manteisio ar yr un cyfleoedd hefyd.
“Dylem hefyd gydnabod bod map ieithyddol Cymru yn eithaf amrywiol ac efallai na fydd un dull penodol yn gweithio bob amser. Hoffem i Lywodraeth Cymru ystyried system hyfforddi ac achredu ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg fel bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau i ddysgu ein hiaith.
“Mae Cymru wedi cyrraedd trobwynt a nawr yw’r amser i gyflwyno newidiadau. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhellion a’u rhoi ar waith cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”