Tasglu’r Cymoedd Llywodraeth Cymru - a yw wedi gwneud wahaniaeth?

Cyhoeddwyd 27/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/02/2020

​Bron i bedair blynedd yn ôl, sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu er mwyn cyfeirio ac arwain "twf cynaliadwy'r Cymoedd a'r gwaith o'u hadfywio". Heddiw mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ymchwiliad i ganfod a yw'r Tasglu wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy'n byw yng nghymunedau'r Cymoedd.

Mae nifer o bryderon wedi cael eu codi ynghylch effeithiolrwydd y tasglu. Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar feysydd sy'n cynnwys:

  • i ba raddau y mae'r Tasglu yn gwneud lles i gymunedau'r Cymoedd
  • a yw'r Tasglu wedi targedu meysydd lle mae angen help fwyaf
  • sut y dylid bwrw ymlaen â gwaith y Tasglu ar ôl iddo ddirwyn i ben ym mis Mawrth 2021

Pennodd Llywodraeth Cymru flaenoriaethau ar gyfer y Tasglu, gan edrych ar gyflogaeth, hyfforddiant, cefnogaeth i fusnesau, cefnogaeth gwasanaethau cyhoeddus, anghydraddoldebau iechyd, trafnidiaeth gyhoeddus, canlyniadau addysg, adnoddau naturiol a threftadaeth, canol trefi a thwristiaeth.

Ym maes cyflogaeth er enghraifft, pennodd y Tasglu darged i helpu 7,000 o bobl i gael gwaith teg. Bydd y Pwyllgor yn asesu a yw'r Tasglu ar y trywydd iawn i gyflawni ei nodau erbyn iddo ddod i ben ym mis Mawrth 2021.

Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Yn 2016, fe bennodd Llywodraeth Cymru nodau uchelgeisiol iawn a chylch gwaith eang ar gyfer Tasglu'r Cymoedd ac rydym wedi clywed geiriau teg am ei waith ers hynny. Rydym hefyd wedi clywed beirniadaeth bod angen mwy o adnoddau a ffocws cliriach ar y Tasglu.

"Ein gwaith ni fel Aelodau Cynulliad nawr yw dirnad a yw'r geiriau teg hyn gan Lywodraeth Cymru wedi troi'n welliannau gwirioneddol i bobl sy'n byw yn y Cymoedd.

"Nod y Tasglu oedd gwella rhagolygon cyflogaeth a hyfforddiant, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a thai, ac uwchraddio canol trefi. Byddwn ni nawr yn dwyn y Tasglu a Llywodraeth Cymru i gyfrif i weld a yw pethau wedi newid.

"Disgwylir i'r Tasglu ddirwyn i ben yn 2021, ac rydym am wybod a fydd yn gadael etifeddiaeth gadarnhaol i bobl leol." 

Ychwanegodd Helen Cunningham o felin drafod Sefydliad Bevan:

"Mae Tasglu'r Cymoedd yn gydnabyddiaeth hanfodol gan Lywodraeth Cymru o'r angen am weithredu ac adnoddau pwrpasol ar gyfer Cymoedd de Cymru. Gwnaethom amlinellu rhai o'n pryderon o'r blaen ynghylch i ba raddau y mae'n mynd i'r afael â'r heriau sylfaenol ac yn targedu ei ymdrechion tuag at y lleoedd sydd eu hangen fwyaf. Rwy'n credu ei bod yn amser da i asesu ei effaith a beth sy'n digwydd nesaf." 

Cydraddoldeb Rhywiol

Dadansoddwyd Tasglu'r Cymoedd gan Chwarae Teg, sef elusen sy'n gweithio i wella cydraddoldeb rhywiol yn economi Cymru. Tynnodd y dadansoddiad sylw at nifer o elfennau cadarnhaol yng ngwaith y Tasglu, ond daethpwyd i'r casgliad bod cyfle wedi cael ei golli i'r Tasglu sicrhau'r budd mwyaf i fenywod.

Dywedodd Natasha Davies, Arweinydd Polisi ac Ymchwil gyda Chwarae Teg:

"Drwy ei waith mae gan Dasglu'r Cymoedd y potensial i chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael ag achosion anghydraddoldeb rhywiol. Menywod o hyd yn anad neb sydd mewn gwaith rhan-amser am gyflog isel, sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach am deithiau byr, sy'n llai tebygol o sefydlu eu busnes eu hunain ac sy'n fwy dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus. Mewn rhannau o'r cymoedd mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mor uchel â 25 y cant, felly yn amlwg mae angen mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn.

"Bydd sicrhau gwell canlyniadau i fenywod yn y Cymoedd yn gofyn am ymyriadau gwahanol. Mae'n hanfodol felly fod yr ymchwiliad hwn yn ystyried sut mae rhaglenni i wella cyflogaeth, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus yn y Cymoedd yn cyflawni ar gyfer cymunedau cyfan ac a yw atebion yn ymateb i anghenion menywod, ac yn cael eu cynllunio a'u darparu gyda gwahanol brofiadau a heriau menywod mewn golwg."