Paul Davies AS

Paul Davies AS

Paul Davies AS

Paul Davies AS

Tata Steel – Datganiad

Cyhoeddwyd 07/02/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/02/2024   |   Amser darllen munud

Yn dilyn y sesiwn heddiw gyda Tata Steel, dywedodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor Economi’r Senedd:

“Roedd y sesiwn gyda rheolwyr Tata Steel heddiw yn hynod ddigalon ac yn drychinebus i’r diwydiant dur yng Nghymru.

“Er gwaetha’r gwrthwynebiad enfawr, a’r effeithiau dychrynllyd y bydd cau’r ffwrneisi chwyth yn eu cael ar y gweithlu, eu teuluoedd a chymunedau ar draws de Cymru, mae Tata yn benderfynol ac nid yw’n gwrando.

“Yr wythnos hon, cytunodd y Senedd gyfan yn unfryd bod dyfodol hyfyw i’r ffwrnais chwyth – ond anwybyddwyd hyn.

“Heddiw, rydym yn galw ar Tata i ailystyried ei safbwynt ac i gadw’r ffwrnais chwyth ar agor.”

 

 


Mwy am y stori hon

Gwylio: Sesiwn ar Tata Steel