Teyrnged Bardd Cenedlaethol Cymru wrth i'r Senedd ddisgleirio yn lliwiau’r enfys mewn diolch i arwyr ein cymunedau

Cyhoeddwyd 21/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/12/2020   |   Amser darllen munud

Bydd y Senedd yn cael ei goleuo mewn lliwiau’r enfys dros gyfnod y Nadolig i dalu teyrnged i’r miloedd o bobl sydd wedi cefnogi eu cymunedau eleni. 

O staff y GIG i weithwyr allweddol, gwasanaethau rheng flaen a grwpiau, unigolion a busnesau lleol - mae pobl wedi cynnig eu cymwynas mewn ffyrdd eithriadol drwy gydol y pandemig.

I ddiolch i bob un ohonyn nhw, bydd lliwiau amryliw yn goleuo’r Senedd bob nos tan y Flwyddyn Newydd, gan gynnwys dydd Nadolig.

Mae rhai straeon unigol ac unigryw am ofal a charedigrwydd yn cael eu dathlu yn oriel Hyrwyddwyr Cymunedol y Senedd, sy’n cynnwys pobl a gafodd eu henwebu gan eu Haelod o’r Senedd lleol.

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi cyfansoddi cerdd yn deyrnged arbennig ar eu cyfer, ac mae pob stori yn cael ei ddathlu yn yr oriel luniau ar y cyfryngau cymdeithasol - #OrielHyrwyddwyr

Dathlu caredigrwydd ledled Cymru 

Ymhlith yr Hyrwyddwyr Cymunedol gafodd eu henwebu ar gyfer yr oriel mae Mike 'Puffa' Jones sydd wedi bod yn adnewyddu beiciau ar gyfer gweithwyr allweddol, plant a theuluoedd yng Nghasnewydd; Clwb cinio Eglwys Bresbyteraidd Neuadd Llaneurgain, sydd wedi dosbarthu prydau bwyd i’w 30 aelod yn ddi-ffael trwy gydol y pandemig; a Delores Ho Sang yn Rhaeadr Gwy fu’n helpu pobl fregus yr ardal drwy siopa, casglu presgripsiynau a sgwrsio dros y ffôn.

Ymhlith y 48 o Hyrwyddwyr Cymunedol hefyd mae Clwb Ffermwyr Ifanc Keyston, y rhedwr marathon Ian Turner o Aberconwy sy’n codi arian er budd elusen a’r pobydd brwdfrydig 13-mlwydd-oed Brooke Graham o Maesgeirchen, Bangor.

Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, yn talu teyrnged i bobl garedig ledled y wlad; 

“Eleni rydyn ni wedi clywed straeon di-ri am ofal a charedigrwydd pobl tuag at eu cymdogion. Dim ond rhai ymhlith miloedd o arwyr yw'r Hyrwyddwyr Cymunedol, a gafodd eu henwebwyd gan Aelodau o’r Senedd, ond maent yn cynrychioli'r amrywiol ffyrdd mae pobl wedi gofalu am bobl o’u cwmpas. Boed hynny’n ddosbarthu parseli bwyd i bobl mewn angen, codi arian ar gyfer y gwasanaeth iechyd neu helpu i leddfu unigrwydd, mae pob un wedi gwneud gwahaniaeth.

“Y Nadolig hwn rydyn ni'n goleuo'r Senedd mewn lliwiau’r enfys i ddiolch iddyn nhw a'r rhai sy'n dal i ofalu amdanon ni - mewn ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion a gwasanaethau ledled y wlad.

“Mae’r straeon yma yn llawn gobaith ac yn ysbrydoliaeth, ac er y gall y Nadolig fod yn gyfnod o lawenydd o hyd, rhaid inni beidio ag anghofio ein dyletswydd i ofalu am anwyliaid a phobl bregus yn ein cymunedau. Mae'n bwysicach nag erioed i fod yn garedig y Nadolig hwn. Nadolig Llawen.”

Mae hanesion yr Hyrwyddwyr Cymunedol sy’n cael eu dathlu gan y Senedd i’w gweld mewn oriel ar lwyfannau Instagram y SeneddFacebook y SeneddTwitter y Pierhead #OrielHyrwyddwyr

 

Egni Cymwynas 

Cafodd y Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn ei ysbrydoli i gyfansoddi cerdd am arwyr 2020.

Egni Cymwynas

Mae stadiwm ein gwlad yn dywyll
ond yn bair o bosibiliadau…
(er nad oes band am chwarae)

Ymhlith y rhesi gwag, mae adlais torf
yn chwyddo’n gytgan;
a gwreichion hen haelioni
yn ffaglu’n fil o fflamau mân.

Peth felly yw egni cymwynas -
y trydan cudd, ymhob cwr o’n gwlad,

sy’n nôl ffisig,
neu’n gwneud neges;

sy’n rhannu sgwrs
fel rhosyn annisgwyl;

sy’n gylch,
pan freichiwn ein gilydd
o bell…

Ac wrth i ni anturio
drwy diroedd newydd ein hen gynefin,
yr ail-fapio yw ein her;

ond er chwithdod
cofleidiau rhithiol,
a diflastod
pob clo dros dro,

mae gwefr mewn cymwynas o hyd:
- fel cyffwrdd yr haul â blaen bys! -
a llewyrchwn fel gwlad yn ei sgîl...

Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru

Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi’i chomisiynu gan Llenyddiaeth Cymru a Chomisiwn y Senedd. Mae menter Bardd Cenedlaethol Cymru yng ngofal Llenyddiaeth Cymru.