Teyrnged i Steffan Lewis AC gan Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 11/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/01/2019

Datganiad gan Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, yn sgil y newyddion trist am farwolaeth Steffan Lewis AC.

"Rwy'n hynod o drist o glywed am farwolaeth fy nghyfaill a'm cydweithiwr, Steffan Lewis.

Dangosodd Steffan ymroddiad a dewrder mawr wrth barhau i wasanaethu pobl Dwyrain De Cymru trwy gydol ei salwch anodd.  Roedd ei ymrwymiad i wasanaethu a gweithio'n galed er mwyn gwella bywydau pobl Cymru wedi ennyn parch iddo ar draws ffiniau gwleidyddol, o fewn y Senedd a thu hwnt.

Ni allaf gofio Aelod Cynulliad arall a oedd mor falch â Steffan o gael ei ethol i'w senedd genedlaethol. Mae'r ffaith i'w gyfnod fel Aelod brofi mor fyr yn golled enbyd i ni i gyd. Byddaf yn colli ei gyfeillgarwch a'i angerdd dros Gymru a'i blaid.

Ar ran fy nghyd-Aelodau a'r rhai sy'n gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf â'i deulu, ei gydweithwyr a'i etholwyr.”

Fel arwydd o barch, mae'r baneri ar adeiladau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u gostwng.

Bydd llyfr cydymdeimlad ar gael yn y Senedd ar gyfer cydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd sy'n dymuno talu teyrnged. Bydd ar gael yno hyd nes yr hysbysir fel arall.