Teyrngedau i Rhodri Morgan yn ystod y Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 19/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2017

​Bydd Aelodau’r Cynulliad yn gallu talu teyrnged i’r cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan yn ystod Cyfarfod Llawn estynedig ddydd Mawrth 23 Mai.

Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau awr yn gynt na’r arfer am 12.30, a bydd cyfle i Aelodau o bob plaid yn y Siambr dalu teyrnged i Mr Morgan, a fu farw ddydd Mercher 17 Mai yn 77 oed.

Daeth yn Aelod Seneddol ym 1987 ac yn Aelod Cynulliad pan agorodd y Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999.

Ef oedd Prif Weinidog Cymru rhwng 2000 a 2009, cyn iddo adael y Cynulliad yn 2011.

Bydd toriad rhwng y teyrngedau ac ailddechrau Busnes y Cynulliad ar ôl.

Bydd llyfr coffa yn parhau i fod ar agor i ymwelwyr â’r Senedd a swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn.

Bydd y baneri yn parhau i chwifio ar hanner mast nes yr hysbysir yn wahanol.

Bydd modd gwylio’r Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a sianel Youtube y Cynulliad.

Mae’r agenda lawn ar gyfer dydd Mawrth 23 Mai i’w gweld yma. Caiff enwau’r siaradwyr eu hychwanegu at yr agenda hon maes o law.