Adroddiad blynyddol y Cynulliad Cenedlaethol yn adolygu blwyddyn o gyflawniadau
14 Gorffennaf 2011
Heddiw, cyhoeddodd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei bedwerydd adroddiad blynyddol sy’n bwrw golwg dros flwyddyn arall bwysig i ddeddfwrfa Cymru.
Mae’n flwyddyn a welodd y bleidlais “ie” yn y refferendwm ar gynyddu pwerau deddfu’r Cynulliad, ynghyd â blwyddyn a welodd y Cynulliad yn canolbwyntio ei ymdrechion ar gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o waith y Cynulliad.
Gwnaed hyn mewn cyd-destun ariannol heriol, pryd y cyflwynodd y Cynulliad gyllideb ddarbodus sy’n adlewyrchu’r cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, yn ogystal â pharhau â’i ymrwymiad i fod yn dryloyw yn ei ddefnydd o arian cyhoeddus.
Mae sefydlu’r Bwrdd Taliadau annibynnol yn golygu nad yw Aelodau’r Cynulliad, am y tro cyntaf, yn ymwneud yn uniongyrchol â phennu eu cyflogau a’u treuliau eu hunain.
“Ein hamcan yw cyflenwi gwasanaethau’r Cynulliad yn fwy effeithlon, wrth sicrhau bod busnes craidd y Cynulliad – sef, cynrychioli buddiannau pobl Cymru, deddfu, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif – yn cael eu cefnogi’n effeithlon,” dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad.
“Mae’r Cynulliad hefyd wedi parhau â’i ymrwymiad i fod yn dryloyw yn y modd y mae’n gwario arian cyhoeddus, a hynny drwy benodi Bwrdd Taliadau annibynnol i bennu cyflogau a lwfansau’r Aelodau.”
“Roedd y bleidlais ‘ie’ yn refferendwm mis Mawrth yn brawf o’r ffydd sydd gan bobl Cymru yn y sefydliad ac rydym yn gwybod bod ganddynt ddisgwyliadau uchel o’r Cynulliad yn y dyfodol a ninnau bellach â rhagor o bwerau deddfu,” ychwanegodd Mrs Clancy.
“Mae gennyf hyder y byddwn yn bodloni’r heriau y mae hyn yn eu cyflwyno.”
Yn wir, mae’r Cynulliad eisoes, ar ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad, wedi newid ei weithdrefnau ffurfiol a strwythur ei bwyllgorau er mwyn sicrhau y gall ei waith adlewyrchu anghenion pobl Cymru yn well.
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi datblygu fersiwn amlgyfryngol o’r adroddiad blynyddol. Gellir dod o hyd iddi ar wefan y Cynulliad.
Adroddiad blynyddol (PDF)