Trefniadau’r Cynulliad ar 30 Tachwedd

Cyhoeddwyd 28/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Trefniadau’r Cynulliad ar 30 Tachwedd

28 Tachwedd 2011

Oherwydd y gweithredu diwydiannol arfaethedig ar 30 Tachwedd, ac fel na chaiff unrhyw fusnes ei golli, mae’r holl fusnes ffurfiol a fwriadwyd i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn y diwrnod hwnnw wedi cael ei aildrefnu.

Bydd amser yn cael ei roi i’r busnes pan fydd y Cynulliad yn eistedd mewn Cyfarfod Llawn fel a ganlyn:

  • 29 Tachwedd rhwng 13.30 a 18.00;

  • 6 Rhagfyr rhwng 13.00 a 19.00; a

  • 7 Rhagfyr rhwng 12.30 a 19.45.

Bydd y Senedd a’r Pierhead ar gau i’r cyhoedd ar 30 Tachwedd.

Fodd bynnag, bydd adeilad Ty Hywel ar agor i ddeiliaid pasys ac i nifer gyfyngedig o ymwelwyr a fydd wedi eu trefnu ymlaen llaw.