Treth incwm: Mae Cymru’n wynebu penderfyniadau anodd

Cyhoeddwyd 02/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd wedi cyflwyno adroddiad ar 'Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol'Mae'r adroddiad yn nodi cyfres o argymhellion i sefydlogi a thyfu cyllid Cymru trwy dreth incwm.

Fis Ebrill 2021 fydd y drydedd flwyddyn i gyfran o dreth incwm gael ei datganoli i Gymru, a blwyddyn olaf ymrwymiad cyfredol Llywodraeth Cymru i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru.

Ers mis Ebrill 2019, mae Llywodraeth y DU wedi gostwng y tair cyfradd Treth Incwm a delir gan drethdalwyr Cymru 10 ceiniog. Yna mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru sydd i'w hychwanegu at gyfraddau gostyngedig y DU, ac mae wedi pennu'r cyfraddau ar yr un lefel â Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Roedd y Pwyllgor, felly, am archwilio'r effaith y byddai gwahanol gyfraddau treth incwm rhwng Cymru a Lloegr yn ei chael ar yr 17 miliwn o bobl sy'n byw ac yn gweithio o fewn 50 milltir i'r ffin.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen mwy o ddata penodol i Gymru gan gynnwys, er enghraifft, ar wahanol fandiau incwm aelwydydd, er mwyn deall yn well effeithiau posibl newidiadau i drethiant ar ymddygiad trethdalwyr.

Mae astudiaethau rhyngwladol yn dangos bod pobl sydd ag incwm uchel yn arbennig o ymatebol i gyfraddau treth a bod rhai proffesiynau sydd â chyflog uchel yn fwy symudol nag eraill.

Fodd bynnag, nid cyfraddau treth yw'r unig reswm i bobl symud; ni ellir tanbrisio cyflogau, teulu, prisiau tai ac ansawdd bywyd. Felly, mae'r Pwyllgor yn argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gynnwys y ffactorau hyn yn y dyfodol yn ei hymchwil i effaith amrywiad treth o ddeutu ffin Cymru a Lloegr.

Mae argymhelliad arall yn galw ar weinidogion i ddenu a chadw pobl yng Nghymru a fydd yn rhoi'r hwb gorau i refeniw treth, gan gynnwys pobl sy'n ennill cyflogau uchel a graddedigion ifanc. Yn ôl Arolwg Incwm Personol 2016-17, mae 44 y cant o boblogaeth Cymru yn talu treth incwm (o'i gymharu â 47 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig).

O ran Covid-19, canfu adroddiad blaenorol gan y Pwyllgor fod mwy na £2 biliwn eisoes ar gael i Lywodraeth Cymru i ymdopi ag effaith y pandemig.

Fodd bynnag, efallai y bydd angen mwy na hynny, ac ychydig a wyddys am y cronfeydd wrth gefn posibl sydd neu a ddylai fod ar waith pe bai ail don o'r feirws yn taro Cymru.

Mae'r Pwyllgor am i weinidogion ddatblygu opsiynau polisi ar gyfer Cyfraddau Treth Incwm Cymru a dechrau ystyried cynlluniau wrth gefn i ddelio â chanlyniadau posibl y pandemig a dirywiad economaidd.

"Mae Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd iawn yn ystod y misoedd nesaf ynglŷn â sut i gael yr economi i symud eto a beth mae cost gyfredol y pandemig, sef £2 biliwn, yn ei olygu i'n bywoliaethau a'n gwasanaethau cyhoeddus wedyn," meddai Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried pob ysgogiad economaidd sydd ar gael, gan gynnwys opsiynau yn ymwneud â Chyfraddau Treth Incwm Cymru.

"Dylai hefyd gael darlun clir o ardal y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gan archwilio ym mha fandiau treth y mae aelwydydd, beth sy'n symbylu ymddygiad trethdalwyr, a sut y gallai Cymru wneud mwy i ddenu'r math o grwpiau ymatebol sydd eu hangen i hybu ein refeniw."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried opsiynau polisi ar gyfer defnyddio ei phwerau CTIC i ddelio ag amodau economaidd andwyol a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus;
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu opsiynau polisi i ddenu'r grwpiau mwyaf ymatebol i Gymru, fel enillwyr incwm uchel a graddedigion ifanc, i hybu refeniw treth; a
  • Mwy o gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM i wella gwaith casglu a lledaenu data Cymru, ac mae'n annog Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gellir defnyddio adran Gwybodaeth, Dadansoddi a Deallusrwydd CThEM i gefnogi ymchwil ar ymwahaniad trethi.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried argymhellion y pwyllgor.