Tryloywder a gwerth am arian yn allweddol i hyder pobl mewn cyrff cyhoeddus – meddai pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 18/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2015

Mae tryloywder, hygyrchedd a gwerth am arian yn allweddol i hyder pobl mewn sefydliadau cyhoeddus, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi adolygu cyfrifon pump o’r cyrff hyn:

Ym mhob achos, canfu’r Pwyllgor welliannau i’r ffordd y mae pob corff yn cyflwyno’u cyfrifon a’u bod wedi ystyried cyngor ac argymhellion a roddwyd gan y Pwyllgor a sefydliadau eraill.

Hefyd, amlinellodd y Pwyllgor ei bryderon mewn perthynas â phob un o’r sefydliadau.
Mae wedi cwestiynu’r ffordd y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi mynd ati i ddwyn achos yn erbyn y contractwyr oedd yn gyfrifol am dân yn y Llyfrgell ym mis Ebrill 2013, gan nad yw’n credu bod y costau cyfreithiol o’i gymharu â’r iawndal tebygol yn cynnig gwerth am arian.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi gwneud sylw am gynllun pensiwn a diswyddo hael Amgueddfa Cymru, ac mae’r Aelodau yn teimlo nad yw’n gydnaws ag anghydfod ynghylch tâl ac amodau rhwng rheolwyr a staff rheng flaen.

Canmolwyd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru am ei system goleuadau traffig i ddangos perfformiad ar olwg gyflym, ond roedd y Pwyllgor yn siomedig o glywed mai dim ond cyfran fechan o’r £100,000 a gollwyd mewn achos o dwyll yn 2013-14 sydd wedi cael ei hadfer.

Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd amrywiaeth i Fwrdd Chwaraeon Cymru, a chroesawodd y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu argymhelliad blaenorol i wella’r ffordd y mae’n cyflwyno’i chyfrifon, ond nododd yr Aelodau ei bod yn bwriadu gwneud hynny.

Hefyd, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei defnydd ynni, a mynegodd bryderon am reoli prosiectau a’r prosesau sydd ar waith i adolygu contractau cyn iddynt ddod i derfyn.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae angen bod pobl yn hyderus bod y cyrff cyhoeddus sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau rydyn ni eu hangen yng Nghymru yn gweithredu’n effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian.

“Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen bod cyfrifon cyrff cyhoeddus yn hawdd eu darllen ac yn dryloyw. Dim ond drwy wneud hynny y gall pobl weld yn union sut y mae’r cyrff hyn yn gweithio ar eu cyfer ac yn darparu gwasanaethau o ansawdd mewn ffordd effeithiol o ran cost.

“Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion trawsbynciol yn ein hadroddiad ynghylch tryloywder a llywodraethu, yn ogystal â phwyntiau mwy penodol ar gyfer pob un o’r sefydliadau rydym wedi’u harchwilio.”

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Craffu ar Gyfrifon 2014-15 (PDF, 808KB)

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cafwyd y lluniau o Wikipedia.