Tystiolaeth o weithgaredd anghyfreithlon gan awdurdodau lleol Cymru yn "peri pryder mawr" - yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
5 Chwefror 2014
Mae Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Caerfyrddin.
"Mae canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn peri pryder mawr, ac yn codi ar adeg y mae gwasanaethau rheng flaen o dan fygythiad, gyda staff gwerthfawr a gweithgar yn y sector cyhoeddus yn wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi neu rhewi cyflogau yn y tymor hir," meddai Mr Millar.
"Nawr yn fwy nag erioed, dylai uwch-reolwyr fod yn arwain drwy osod esiampl a thrwy gael gwerth llawn o bob punt o arian cyhoeddus a gaiff ei gwario.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro wedi disgyn ymhell islaw'r safonau uchel y dylai'r bobl y maent yn eu gwasanaethu eu disgwyl.
“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried y canfyddiadau hyn fel rhan o'i ymchwiliad ehangach i gyflogau uwch-reolwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yma.
Mae'r adroddiadau llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru