Tywysog Cymru i ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 25/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Tywysog Cymru i ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol

Bydd ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn weld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Iau, Mehefin 26ain a bydd yn agor yn swyddogol   Siambr Hywel, canolfan addysg a siambr ddadlau newydd i bobl ifanc y Cynulliad.                                                          

Bydd y Tywysog yn anerch yn y gynhadledd ‘Dyfodolion Nawdd’ a drefnwyd fel rhan o Gynhadledd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn Adeilad y Lanfa cyn mynychu derbyniad sy’n cydnabod gwaith Elusennau ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, yn y Senedd.

Yna bydd Tywysog Cymru’n agor yn swyddogol Siambr Hywel, ac yna’n cyfarfod myfyrwyr o Goleg Iâl yn Wrecsam a fydd yn cynnal dadl yn siambr ddadlau gyntaf Ewrop sy’n benodol ar gyfer pobl ifanc.                                   

Gelwir y ganolfan newydd, a leolir yn hen siambr ddadlau’r Cynulliad yn Nhy Hywel yn “Siambr Hywel” ar ôl Hywel Dda sef y gwr cyntaf i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru ac i gyflwyno cyfreithiau safonol yn y wlad yn y ddegfed ganrif.                                

Mae’r ganolfan yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu am y Cynulliad trwy gymryd rhan mewn dadl a phleidleisio ar gynnig fel mae Aelodau’r Cynulliad yn ei wneud a thrwy gymryd rhan mewn gweithdai a gynlluniwyd i addysgu pobl ifanc am y Cynulliad a sut mae’n gweithio yn yr ystafell weithgareddau gyfagos.