Un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwahodd y cyhoedd i holi’r Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 18/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwahodd y cyhoedd i holi’r Prif Weinidog

18 Mehefin 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwahodd pobl i awgrymu cwestiynau i’r Aelodau eu gofyn i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, mewn cyfarfod sydd ar y gweill.

Bydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod yn Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam am 09.45 ddydd Gwener 19 Gorffennaf.

O heddiw ymlaen (dydd Mawrth 18 Mehefin), mae’r Pwyllgor yn gwahodd cwestiynau i’r Prif Weinidog drwy Twitter gan ddefnyddio #HiHPWC, a thrwy eu nodi ar dudalen Facebook y Cynulliad Cenedlaethol: www.facebook.com/cynulliadcenedlaetholcymru.

Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar brosiectau seilwaith mawr, gan ganolbwyntio'n benodol ar enghreifftiau yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys trydaneiddio rheilffyrdd, gwelliannau i’r A55, ac ynni niwclear ac adnewyddadwy.

Dim ond cwestiynau sy’n berthnasol i’r maes polisi hwn a fydd yn cael eu hystyried, a bydd hyd at bum cwestiwn yn cael eu dewis a fydd yn ychwanegol at gwestiynau’r Aelodau eu hunain i’r Prif Weinidog.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: “Mae hwn yn gyfle i bobl yng Nghymru ofyn eu cwestiynau yn uniongyrchol i Brif Weinidog Cymru.”

“Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn ddull pwerus o siarad â phobl a thrafod syniadau â hwy, felly mae’r Pwyllgor yn awyddus i ddefnyddio’r sianeli hyn i gynnwys cyhoedd Cymru yn ein gwaith.

“Rwyf i a’m cyd-aelodau ar y Pwyllgor yn edrych ymlaen at ganfod yr hyn yr hoffai pobl inni ei ofyn.”

Mae’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, a bydd sesiwn agored ar ddiwedd y trafodion ffurfiol fel y gall y rhai sy’n bresennol ofyn cwestiynau i’r Pwyllgor, neu roi sylwadau iddo.

Dylai unrhyw un sydd am fynd i’r cyfarfod gysylltu â llinell archebu’r Cynulliad drwy ffonio 0845 010 5500, neu anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk.