Un o Bwyllgorau’r Cynulliad cenedlaethol i gynnal ymchwiliad newydd i archwilio atal cleifion rhag datblygu Thrombo-emboledd Gwythiennol yn yr ysbyty

Cyhoeddwyd 13/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o Bwyllgorau’r Cynulliad cenedlaethol i gynnal ymchwiliad newydd i archwilio atal cleifion rhag datblygu Thrombo-emboledd Gwythiennol yn yr ysbyty

13 Mawrth 2012

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymgynghori ar ymchwiliad newydd i atal cleifion rhag datblygu Thrombo-emboleddau Gwythiennol (VTE) yn yr ysbyty.

Mae Thrombo-emboleddau Gwythiennol yn cynnwys Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) ac Emboledd Ysgyfeiniol (PE). Mae’r ddau gyflwr yn ymwneud â chlotiau gwaed yn blocio rhydwelïau yn y corff ac yn gyfrifol am rhwng 25,000 a 32,000 o farwolaethau’r flwyddyn yn y DU.

Mae Lifeblood: The Thrombosis Charity yn amcangyfrif bod traean o’r marwolaethau o ganlyniad i thrombo-emboleddau’n achosion lle mae’r claf wedi datblygu’r cyflwr yn yr ysbyty. O ganlyniad, dyma fydd canolbwynt ymchwiliad y Pwyllgor.

Bydd y Pwyllgor yn gwrando ar dystiolaeth yn ystod sesiwn diwrnod cyfan gan archwilio’r modd y rhoddir canllaw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Rhagoriaeth Glinigol ar waith a pha mor ddigonol yw offeryn asesu risg 1000 o Fywydau a Mwy, sy’n cael ei ddefnyddio ledled Cymru i leihau’r risg o gleifion yn datblygu clotiau gwaed.

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Mae Thrombo-emboledd Gwythiennol yn gyflwr difrifol ond mae modd i’w atal yn amgylchedd yr ysbyty”.

“Bydd yr ymchwiliad hwn yn archwilio i ba raddau mae canllawiau a sefydlwyd yn genedlaethol yn cael eu dilyn yn ein hysbytai ac a oes modd gwneud unrhyw beth pellach i leihau nifer yr achosion.

“Rydym ni’n canolbwyntio’r ymchwiliad hwn yn benodol ar atal cleifion rhag datblygu Thrombo-emboleddau Gwythiennol yn yr ysbyty, a hoffem glywed barn swyddogion gweithredol y byrddau iechyd a’r ysbytai, meddygon a staff meddygol ynghyd â chleifion a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y cyflwr hwn.”

Gall unrhyw un sydd eisiau cyflwyno tystiolaeth yn rhan o’r ymgynghoriad anfon e-bost i PwyllgorIGC@cymru.gov.uk neu ysgrifennu at: Glerc Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.