Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn adolygu’r System Ddeisebau

Cyhoeddwyd 03/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/02/2016

Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad yn ymchwilio i ddatblygiad system ddeisebau'r Cynulliad yn y dyfodol.

Ymhlith y ffactorau a ystyriwyd gan y Pwyllgor oedd:

  • y meini prawf cyfredol o ran derbyniadwyedd;
  • y ffordd y mae'r Cynulliad yn ymdrin â deisebau derbyniadwy; ac
  • ym mha ffordd y gallai Rheolau Sefydlog a systemau eraill y Cynulliad orfod newid er mwyn cefnogi unrhyw argymhellion.

"Mae system ddeisebau'r Cynulliad yn ffordd wych i bobl i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad, ac i ddod â materion y maent yn pryderu amdanynt i'r amlwg," meddai William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

"Mae'r adborth a gawsom dros y pum mlynedd diwethaf yn dweud bod pobl yn gwerthfawrogi'r system. Gall arwain at newid cadarnhaol yng Nghymru drwy ddylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth, neu'n syml drwy roi'r cyfle i ddinasyddion leisio'u pryderon wrth wraidd Llywodraeth.

"Nid oedd y Pwyllgor yn teimlo bod galw mawr nac angen am newidiadau sylfaenol i'r system ddeisebau, ond gallwn wella bob amser. Credwn y bydd y newidiadau cynyddrannol yr ydym wedi'u hargymell yn arwain at system fwy penodol a pherthnasol, tra bydd yn cadw'r hygyrchedd hawdd sy'n nodwedd mor werthfawr o'r trefniadau presennol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 17 o argymhellion yn ei adroddiad (544Kb, PDF) gan gynnwys:

  • Dylid gallu defnyddio system ddeisebau ar-lein y Cynulliad ar gyfer deisebu ar faterion heb eu datganoli sy'n ymwneud â Chymru.  Fodd bynnag, ni fyddai'r deisebau hyn yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Deisebau, a fyddai'n parhau i ymdrin â deisebau sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu bwerau Gweinidogion Cymru yn unig.
  • Dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru neu sefydliadau sy'n gweithredu o Gymru ddylai allu cyflwyno deisebau.  Fodd bynnag, dylai unrhyw un, gan gynnwys pobl ifanc, barhau i allu llofnodi deisebau.
  • Dylai'r Pwyllgor Deisebau newydd ddatblygu meini prawf clir ar gyfer blaenoriaethu ystyriaethau o ddeisebau.  Dylai ystyried cynnal dadl mewn Cyfarfod Llawn ar unrhyw ddeiseb sy'n cael nifer penodol o lofnodion fod ymhlith y meini prawf. 

Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried yn awr gan Lywydd y Cynulliad a'r Pwyllgor Busnes.