Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn agor ymgynghoriad ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

Cyhoeddwyd 30/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn agor ymgynghoriad ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)  

30 Mai 2012

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ar Fil a fydd yn sefydlu gofyniad statudol i awdurdodau bwyd weithredu cynllun sgorio hylendid bwyd yng Nghymru.

Mae’r Bil hefyd yn rhoi dyletswydd ar fusnesau bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn eu sefydliad.        

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am dystiolaeth wrth iddo ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil.

Ymhlith y cwestiynau y bydd y Pwyllgor yn eu gofyn mae:

-         a yw’r Bil yn angenrheidiol;

-         a yw’n cyflawni ei ddiben datganedig;

-         a yw’r darpariaethau allweddol sydd wedi’u nodi yn y Bil yn briodol;

-         beth yw’r rhwystrau posibl rhag gweithredu’r darpariaethau allweddol hyn;

-         a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn codi o’r Bil; ac

-         a yw’r Bil yn nodi ei gynigion mewn digon o fanylder, neu a yw’n gadael gormod i’r Gweinidogion ei nodi yn y dyfodol.           

“Bu diogelwch bwyd yn bwnc arbennig o emosiynol yng Nghymru ers yr achos o E.coli yn 2005,” meddai Mark Drakeford, AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Rwyf felly’n croesawu’r Bil hwn fel modd i wella safonau hylendid bwyd yng Nghymru.

“Er bod y cynllun gwirfoddol presennol wedi cael canlyniadau da, mae’r Bil yn gwneud trefniadau gorfodol i fesur iechyd cyhoeddus syml roi gwybodaeth hawdd ei deall, ar gip i ddefnyddwyr am safonau hylendid busnesau bwyd”.

“Bydd y Bil, os caiff ei basio, yn codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch bwyd ymhlith y cyhoedd ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau mwy hyddysg ynghylch ble i fwyta allan neu i brynu bwyd.  Hwn fydd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth i gael ei ystyried gan Aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn casglu barn a syniadau pobl ar y pwnc hwn.”

Daw’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil i ben ar 29 Mehefin 2012

Gwybodaeth, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol, am y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)